Part of the debate – Senedd Cymru am 5:07 pm ar 28 Mawrth 2023.
Diolch i'r Gweinidog am y datganiad yma heddiw a'r cynllun sydd wedi cael ei gyflwyno. Dwi'n arbennig o falch o weld yr elfen gydweithredol sydd yn rhan o'r datganiad, sydd mor bwysig os ydyn ni'n mynd i fynd i'r afael â'r her o gael gwared ar TB. Ond dwi'n sefyll ger eich bron chi heddiw i drafod y rhaglen ddiwygiedig ar gyfer dileu TB gyda chalon drom, oherwydd dwi’n boenus ymwybodol o gyfeillion annwyl sydd yn mynd trwy wewyr meddwl dychrynllyd heddiw oherwydd eu bod nhw wedi cael gwybod bod yna TB naill ai yn eu gyrr neu ar fferm gyfagos. Yn wyneb hyn, maen nhw’n teimlo yn gwbl ddiymadferth, ac yn ofni'r gwaethaf.
Mae’r poen meddwl yn ddychrynllyd gan arwain at rai yn ystyried cymryd y weithred eithafol o gymryd eu bywydau eu hun. Mae yna deuluoedd, cyfeillion a chymunedau yn dioddef yn sgil hynny. Dyma lefel y poen y mae ein ffermwyr yn gorfod mynd drwyddo wrth wynebu’r haint dychrynllyd yma. Fe bwysleisiodd llywydd NFU Cymru, Aled Jones, y neges yma yn ddiweddar gan ymbilio ar y Llywodraeth i ddefnyddio'r holl offer sydd gan y Llywodraeth er mwyn dileu'r clefyd hwn. Felly, mae'r datganiad yma i'w groesawu heddiw.
Ond mae llythyrau swyddogol sy’n cael eu gyrru allan yn cael eu hysgrifennu mewn modd oeraidd a bygythiol, gan gael effaith andwyol ar iechyd meddwl y teuluoedd sy’n eu derbyn. Felly dwi’n croesawu'n gynnes argymhelliad 3 yn y cynllun sy’n sôn am wella cyfathrebu. A gawn ni sicrwydd gan y Gweinidog y bydd dulliau'r llythyrau newydd yn fwy empathetig a bod unrhyw gyfathrebiad yn ystyried yr effaith ar iechyd meddwl y teuluoedd hynny, os gwelwch yn dda?
Tra ein bod ni'n gweld niferoedd yr achosion yn lleihau mewn rhai ardaloedd, mae’n bryder anferthol gweld yr haint yn lledaenu o’r gogledd-ddwyrain i'r gogledd-orllewin ac yn fwy amlwg yn ardaloedd Cymru a ystyrir yn draddodiadol fel risg isel ac yn parhau i fod yn styfnig mewn rhannau o’r de-orllewin. Beth ydy asesiad y Llywodraeth am y rheswm y tu ôl i hyn, os gwelwch yn dda?
Mae gorstocio a ffermydd dwys yn cyfrannu at ddwysedd yr haint, fel gydag unrhyw feirws arall, megis COVID, mae bTB yn cael ei ledu mewn amgylchedd dwys. Un dull o weithredu ydy gwella mesurau bioddiogelwch ar ffermydd. Mae hyn yn cynnwys gwella awyru mewn ysguboriau a siediau, a sicrhau bod ffynonellau bwyd anifeiliaid a dŵr yn cael eu cadw'n lân ac yn rhydd o halogiad. Faint o gyllid sy'n cael ei fuddsoddi gan y Llywodraeth i mewn i’r mesurau hyn ar hyn o bryd a pha gynnydd mewn cyllid fydd yn dod yn sgil y cyflwyniad yma heddiw?
Ond pa faint o haint sydd mewn ardal, y ffaith ydy, yn ddiymwad, ei fod yn cael ei ledaenu gan foch daear pan fo'r haint yn yr ardal honno, yn ogystal ag o fuwch i fuwch. Felly, mae o’n ffôl i ddiystyru difa moch daear mewn ardaloedd lle mae'r haint yn bresennol. Mae difa moch daear, felly, yn gorfod bod yn rhan o'r datrysiad. Pa bynnag ffordd mae rhywun yn edrych ar y mater, mae anifeiliaid am orfod cael eu difa, boed yn ddwsinau o foch daear, neu'n gannoedd o wartheg. Mae'r cynllun yma yn sôn mai bwriad y Llywodraeth ydy buddsoddi mewn brechlyn ar draul difa, ond does yna ddim amserlen yn cael ei roi ar gyfer datblygu brechlynnau.
Yn dilyn cyhoeddiad gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, yr APHA, mae treialon maes ar gyfer brechlyn gwartheg a phrawf croen newydd ar gyfer twbercwlosis gwartheg wedi symud ymlaen i’r cam nesaf, yn dilyn cyhoeddiad gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion. Os bydd yr ail gam yma'n llwyddiannus, yna mi fyddwn ni'n agosach at allu brechu gwartheg yn erbyn y clefyd endemig hwn. Ond dydyn ni ddim wedi gweld unrhyw gamau mawr sylweddol i ddod â ni’n agosach at y lan yn ddiweddar, felly tan inni weld y brechlyn, ac yn wyneb tystiolaeth wyddonol fod difa yn erfyn pwysig mewn ardaloedd ble mae'r haint yn bodoli, a wnaiff y Gweinidog ganiatáu rhaglen ddifa wedi ei rheoli yn yr ardaloedd hynny? Mae angen gweithio ar raddfa a chyflymder llawer iawn cynt na beth sy'n digwydd ar hyn o bryd os ydym ni o ddifrif am fynd i'r afael â'r haint. Felly, a wnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni beth ydy'r amserlen ar gyfer y brechlyn, er mwyn i ni gael sicrwydd bod y Llywodraeth ac eraill yn cymryd hyn o ddifrif?
Yn olaf, dwi'n croesawu’r prosiect ym Mhenfro, ond yn pryderi ei fod yn gyfyng iawn. Mae ffermwyr yn parchu dealltwriaeth a barn ffarier lleol, a bydd y prosiect yma yn helpu i ddatblygu’r berthynas hynny rhwng y ffarier a’r ffermwr. Pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth, felly, i sicrhau bod milfeddygon ar draws Cymru yn cael eu cefnogi er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf allan i ffermydd cyn gynted â phosib? Diolch yn fawr iawn.