Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 29 Mawrth 2023.
Diolch yn fawr iawn am yr ymateb yna. Rydyn ni'n gwybod ein bod ni'n wynebu problemau tlodi difrifol ar draws llawer o Gymru. Yn 2017, mi wnaeth y Swyddfa Ystadegau Gwladol gyhoeddi mai Ynys Môn oedd yr ardal efo'r gwerth ychwanegol gros isaf ym Mhrydain. Y llynedd, roedd Caergybi'n cael ei henwi fel y lle efo'r incwm net isaf yng ngogledd Cymru. Ac rydyn ni'n gwybod, pan fyddwn ni'n wynebu argyfwng, argyfwng costau byw fel sydd gennym ni rŵan, mai'r bregus a'r mwyaf tlawd sy'n cael eu taro fwyaf. Rŵan, fis diwethaf, mi wnaeth adroddiad diweddaraf Sefydliad Bevan danlinellu eto bwysigrwydd help ariannol uniongyrchol gan lywodraethau. Dwi'n poeni ein bod ni'n gweld colli nifer o elfennau o help—Llywodraeth Prydain ddim yn rhoi digon o addewid o ran cymorth efo costau ynni, rhaglen cynllun cymorth tanwydd Cymru wedi dod i ben ym mis Chwefror. Rŵan, dwi'n nodi wrth gwrs yr arian ychwanegol ar gyfer y gronfa cymorth dewisol, y cynllun rhagorol i roi cinio ysgol am ddim er mwyn mynd i'r afael â theuluoedd sy'n byw mewn tlodi, ond a wnaiff y Gweinidog roi sicrwydd y bydd popeth posib yn cael ei wneud gan y Llywodraeth i sicrhau bod cymorth yn cyrraedd ardaloedd fel Ynys Môn, sy'n wynebu problemau dyfnion iawn o ran tlodi?