Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 29 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 2:19, 29 Mawrth 2023

Diolch ichi am yr esboniad yna. Wrth gwrs, mae setliad cyflogwyr y gwasanaethau tân drwy Gymru a Lloegr gyda'r FBU, undeb y diffoddwyr tân, am gynyddu'r diffyg cyllid yn yr awdurdod tân yn y gogledd i £2.4 miliwn. Mae'n anodd credu fod y cytundeb wedi ei wneud heb unrhyw arian ychwanegol ar y bwrdd gan Lywodraeth Llundain. Mi fydd pontio'r bwlch ariannol yna yn golygu un o ddau beth: un ai cyfyngu ar wasanaethau, neu cynnyddu’r lefi ar drigolion—roeddech chi'n sôn amdano fe—sy’n dal, nifer ohonyn nhw, i wynebu yr argyfwng costau byw. Gallai'r lefi i drethdalwyr gynyddu 20 y cant yn yr achos yma, os nad oes cymorth canolog. Felly, gaf i ofyn pa fewnbwn mae Llywodraeth Cymru wedi ei gael i’r trafodaethau yma? Mae’n ymddangos bod awdurdodau tân yng Nghymru yn wynebu her enfawr oherwydd nad oes arian ar gael o Lywodraeth Llundain i gynnal cyflogau staff. Onid yw hyn yn ddadl unwaith eto dros ddatganoli cyfrifoldeb y gwasanaethau tan yn llwyr i Gymru?