10. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Gofal lliniarol

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:52 pm ar 29 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 5:52, 29 Mawrth 2023

I gloi, fel dywedais i, mae'r ddadl yma yn gyfle eto, onid ydy, i edrych ar y problemau penodol fu yng Nghymru yn ystod cyfnod y pandemig. Ond allwn ni ddim deall y problemau yna'n iawn, allwn ni ddim dysgu gwersi sy'n deillio o'r profiadau yna, oni bai bod penderfyniadau cafodd eu cymryd yng Nghymru yn cael eu sgrwtineiddio yn iawn yma yng Nghymru, a dyna pam ein bod ni ar y meinciau yma yn dal i alw am ymchwiliad cyhoeddus yng Nghymru. Ac, efo adroddiadau heddiw yn tanlinellu y broblem honno—y newyddion mai dim ond tair wythnos fydd yn cael eu rhoi i Gymru yn ymchwiliad y Deyrnas Unedig—sut allwn ni ddisgwyl i'r holl wersi sydd angen cael eu dysgu, yn cynnwys y maes gofal diwedd oes, gael eu trafod a'u dysgu?