Part of the debate – Senedd Cymru am 5:47 pm ar 29 Mawrth 2023.
Diolch am gyflwyno’r cynnig heddiw, Mark Isherwood. Dwi'n falch iawn o gael cymryd rhan yn y ddadl yma, ac yn ddiolchgar iawn am y gwaith gafodd ei wneud gan y grŵp trawsbleidiol gofal hosbis a lliniarol yn creu yr adroddiad fu’n sail i'r cynnig yma o'n blaenau ni heddiw. Ac, wrth gwrs, mae eisiau cofio am bob un unigolyn fu’n rhan o'r broses ymgynghori am rannu eu profiadau cyn ac yn ystod y pandemig. Fel mae'r adroddiad yn ei ddweud, mae mor, mor bwysig bod y ffordd rydym ni'n darparu gofal lliniarol a gofal diwedd oes, y ffordd rydym ni'n cynllunio’r ddarpariaeth, yn newid o ganlyniad i ddysgu o brofiadau y pandemig. Mi wnaeth y pandemig danlinellu mewn ffordd glir iawn y problemau mawr sydd gennym ni ar hyn o bryd efo’r system ofal lliniarol a gofal diwedd oes sydd gennym ni yng Nghymru. Nid yn unig oedd diffyg gwytnwch y ddarpariaeth i'w weld yn blaen, a'r diffyg blaengynllunio ar gyfer senario pandemig, er enghraifft, yn arwain at brofedigaethau ofnadwy o anodd—profiadau mor anodd i deuluoedd ym mhob cwr o Gymru, ond mi welwyd hefyd, wrth gwrs, bod y model cyllido elusennol hefyd yn fregus tu hwnt. Ond dwi'n ofni nad ydym ni yn gweld y mathau o wersi y byddem ni'n dymuno gweld y Llywodraeth yn eu dysgu.