Part of the debate – Senedd Cymru am 6:24 pm ar 29 Mawrth 2023.
Dyma ni yn cyrraedd, felly, y cyfnod ar gyfer pleidleisio ac oni bai bod tri Aelod yn dymuno i fi wneud hynny, fe wnawn ni symud yn syth i'r bleidlais gyntaf. A'r bleidlais gyntaf yw'r un ar eitem 6, a'r cynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog ar bleidleisio drwy ddirprwy yw hwn. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Elin Jones. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 36, neb yn ymatal, 12 yn erbyn. Ac felly mae'r cynnig yna wedi ei gymeradwyo.