Digwyddiadau ar Ystâd y Senedd

Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:19 pm ar 29 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:19, 29 Mawrth 2023

Mae'r Comisiwn yn adolygu’r broses archebu bresennol ar gyfer cynnal digwyddiadau a chyfarfodydd ar ystâd y Senedd, yn dilyn newidiadau yn nefnydd yr ystâd ar ôl y pandemig diweddar. Mae'r newidiadau fydd yn cael eu cyflwyno ar unwaith yn cynnwys diwygio'r ffurflen archebu i greu categorïau ar wahân ar gyfer archebu ystafelloedd a digwyddiadau ac i fedru prosesu ceisiadau'n gynt. Bydd y ffurflen newydd yma yn cael ei threialu a'i rhoi ar waith yn ystod tymor yr haf. Mi rydym hefyd yn ymgynghori i gasglu sylwadau Aelodau ar unrhyw newidiadau posib eraill i'r dyfodol.