Twyllwybodaeth

Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:31 pm ar 29 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:31, 29 Mawrth 2023

Mae gan y Comisiwn reolau caeth mewn perthynas â defnyddio ystâd y Senedd. Caiff pob digwyddiad ei adolygu i sicrhau eu bod yn bodloni ein gofynion, sy'n cynnwys atal gweithgareddau sy'n cael eu hystyried yn wahaniaethol neu'n dramgwyddus. Mae gan ein tîm cyfathrebu offer i fonitro'r cyfryngau a'r cyfryngau cymdeithasol i adnabod twyllwybodaeth am y Senedd. Mae'r cynnydd mewn twyllwybodaeth yn risg, a dwi'n credu, fel Aelodau, bod gan bob un ohonom gyfrifoldeb i helpu i'w atal rhag lledaenu, yn ein Senedd ac yn ein cymunedau.