Part of 4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:48 pm ar 29 Mawrth 2023.
Dyma ni eto, onid e—adroddiad damniol arall? Rydyn ni'n sôn am archwiliad oedd wedi rhoi adran frys Ysbyty Glan Clwyd ym mis Mai y llynedd o dan y dynodiad o fod yn wasanaeth o fod yn wasanaeth sydd angen ei wella yn sylweddol. Gadewch inni fod yn glir: dyma ydy'r haen uchaf o gonsyrn sy'n gallu cael ei godi. Ni allai dim byd fod yn fwy o ysgytwad, siawns, i Lywodraeth weithredu i sicrhau bod pethau yn gwella yn sylweddol.
Mi allwn ni edrych ar yr ochr bositif, a nodi bod yr adroddiad diweddaraf yma, ar ôl yr archwiliad diweddaraf, yn dweud bod pethau wedi gwella rhywfaint erbyn hynny, ond beth rydyn ni'n ei ddarllen, mae gen i ofn, ydy—a dwi'n dyfynnu—mai 'mân welliannau' ydy'r gwelliannau hynny. Rwy'n gobeithio fy mod i'n dyfynnu'r Gweinidog yn iawn pan ddywedodd hi: