6. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog — Pleidleisio drwy ddirprwy

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:02 pm ar 29 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 4:02, 29 Mawrth 2023

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, ac mae'n bleser gen i siarad y prynhawn yma ar fater sy'n arwydd o gam pellach ar y llwybr at greu Senedd fodern, flaengar, gynhwysol, y gallwn ni i gyd fod yn falch ohoni hi. Mae’r Pwyllgor Busnes, ym marn y mwyafrif, wedi cytuno i gynnig nifer o newidiadau i gynllun pleidleisio drwy ddirprwy y Senedd. Mae’r Pwyllgor Busnes yn cynnig y newidiadau yma er mwyn diogelu’r opsiynau sydd ar gael i Aelodau yn y dyfodol, ac fel bod gan Aelodau sy’n absennol o’r trafodion, am resymau amrywiol, y modd i fynegi eu barn ar benderfyniadau gerbron y Senedd.

Mi oedd y darpariaethau dros dro cyfredol yn cynnwys absenoldeb rhiant, ond absenoldeb rhiant yn unig, ac mi ges i brofiad uniongyrchol o hyn, a chael dirprwyo pleidlais ar ran Adam Price yn y Senedd ddiwethaf, ac fe wnaeth Dai Lloyd ar ran Bethan Sayed hefyd. Felly, mae’n dda heddiw fod y Pwyllgor Busnes bellach yn cynnig bod y darpariaethau hyn yn cael eu gwneud yn rhai parhaol, ac, wrth wneud hynny, rydym ni hefyd yn cynnig bod hyd y pleidleisio drwy ddirprwy at y diben hwn yn cael ei ddiwygio i gyfnod o saith mis ar gyfer y ddau bartner.

Mae’r Pwyllgor Busnes hefyd yn cynnig bod y Senedd yn cytuno i ymestyn y bleidlais drwy ddirprwy i gynnwys achosion pan fo Aelod yn absennol o’r Senedd oherwydd rhesymau eraill—tri rheswm arall yn benodol. Yn gyntaf, yn absennol oherwydd salwch hirdymor neu anaf; yn ail, yn absennol oherwydd cyfrifoldebau gofalu, sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo fo neu hi fod yn absennol o’r Senedd; ac, yn drydydd, am resymau profedigaeth.

Mae’r Pwyllgor Busnes yn cynnig bod pleidlais drwy ddirprwy am absenoldeb oherwydd salwch neu anaf hirdymor neu am resymau cyfrifoldebau gofalu yn un fyddai'n para am o leiaf bedair wythnos, ac uchafswm o chwe mis. Pe bai Aelod yn absennol oherwydd profedigaeth, mae hyd y cyfnod pleidleisio drwy ddirprwy i’w gytuno rhwng yr Aelod a’r Llywydd. Mi fyddai’r newidiadau arfaethedig yma yn sicrhau bod y darpariaethau pleidleisio drwy ddirprwy yn y Senedd yma yn mynd tu hwnt i'r darpariaethau sydd ar gael ar hyn o bryd yn unrhyw un o Seneddau eraill y Deyrnas Unedig. Dwi'n falch iawn o hynny, ac mae o'n arwydd clir o'n parodrwydd ni yma yng Nghymru i greu gweithle gofalgar a chynhwysol yn ein Senedd genedlaethol.

Mae'r pwyllgor hefyd yn cynnig y dylai'r Llywydd gadw'r disgresiwn i amrywio'r trefniadau pan fydd angen, er mwyn ymateb i amgylchiadau unigol. Mae'r pwyllgor hefyd o'r farn y dylai pleidleisio drwy ddirprwy gael statws cyfartal â phleidlais a fwriwyd gan Aelod yn uniongyrchol, ac, o'r herwydd, mae'n cynnig bod y cyfyngiadau ar y mathau o bleidleisiau yn cael eu dileu, a bod hawl i bleidleisio drwy ddirprwy ym mhob math o bleidleisio yn y Cyfarfod Llawn ac yn y Pwyllgor o'r Senedd Gyfan.

Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cytuno i adolygu'r darpariaethau hyn cyn diwedd y chweched Senedd, felly dwi'n gofyn i chi gymeradwyo'r newidiadau yma i'r Rheolau Sefydlog.