Part of the debate – Senedd Cymru am 4:09 pm ar 29 Mawrth 2023.
Diolch yn fawr iawn, ac mi wnaf i ymateb i'r sylwadau ynglŷn â'r paru, achos dyma sydd wedi cymryd sylw yn y Pwyllgor Busnes hefyd. Trefniant anffurfiol ydy paru, wrth gwrs, lle mae Aelodau yn gallu paru a'r ddau yn peidio â phleidleisio o gwbl, felly does yna ddim cofnod o'u pleidlais nhw. Mae gwneud pleidlais drwy ddirprwy yn galluogi'r Aelod yna i gofnodi pleidlais drwy berson arall yn cofnodi drostyn nhw, felly mae o'n fwy democrataidd, yn fy marn i. Mae paru yn arferiad, ydy, ond dydy o ddim yn digwydd drwy'r amser. Mae o'n arferiad, dwi'n credu, yn y Senedd yma, fod y Llywodraeth a'r wrthblaid yn gallu gwneud trefniadau paru, ond, yn y Senedd diwethaf, doedd Aelodau Plaid Cymru ddim yn paru. Erbyn hyn, mi ydym ni. Oherwydd y cytundeb cydweithio, mae yna drefniadau paru ar waith. Ond dydy o ddim yn dilyn bod paru yn digwydd ymhob achlysur ac, wrth gwrs, pan fo gennyt ti Aelod unigol, wel dydy hynny efallai ddim yn mynd i fod yn bosib, er, wrth gwrs, mae modd gofyn am baru hynny hefyd. Dwi'n credu mai sôn ydym ni yn fan hyn am pan fo Aelodau i ffwrdd am gyfnod estynedig. Mae paru yn dal yn mynd i fedru bod yn arferiad ac yn gallu digwydd o wythnos i wythnos, ond pan fo angen i Aelod fod i ffwrdd am gyfnod estynedig am y rhesymau rydym ni wedi eu nodi, wel, mae pleidleisio drwy ddirprwy yn fecanwaith llawer iawn mwy cadarn, mae o’n fwy ffurfiol, ac mae o’n gydnabyddiaeth, onid yw, ein bod ni yn le sydd efo arferion gwaith modern. Dydyn ni ddim yn gyflogwr, nac ydym, ond does bosib ein bod ni angen gosod esiampl o'r ffordd yr ydym ni yn dymuno gweithio a thrin ein gilydd yn y lle yma.