Part of the debate – Senedd Cymru am 4:15 pm ar 29 Mawrth 2023.
Dwi'n hapus i gefnogi'r cynnig deddfwriaethol yma, er mae'n bosib fe wnaf i egluro fy mod i'n dod ato fo o gyfeiriad ychydig bach yn wahanol i'r sawl sy'n ei gynnig o.
Mi wnaf i sôn am fy mhrofiad i fel newyddiadurwr yn ôl 20 mlynedd yn ôl. Dwi'n cofio yn y cyfnod hwnnw, yn gynnar yn fy ngyrfa i, yn y 1990au, o bosib, roedd yna sylw mawr, mawr o fewn y cyfryngau Cymreig, o fewn newyddion ac ati, i beth oedd yn digwydd o fewn y diwydiant twristiaeth. Roedd Jonathan Jones yn brif weithredwr ar Fwrdd Croeso Cymru. Roedd o'n ffigwr cyhoeddus amlwg iawn, yn siarad yn gyhoeddus yn gyson iawn ynglŷn ag elfennau technegol iawn o sut i yrru'r diwydiant twristiaeth yn ei flaen. Mi wnaf i ddatgan budd yn fan hyn. Dwi ddim yn meddwl fy mod i'n gorfod datgan budd am gyn-broffesiwn fy ngwraig, ond mi oedd fy ngwraig i'n gweithio ar un pwynt i Fwrdd Croeso Cymru.
Ond nid dweud bod Bwrdd Croeso Cymru'n gwneud popeth yn berffaith ydw i, ond mi oedd o'n gorff a oedd yn wynebu'r cyhoedd ac oedd yn deall y diwydiant. Dwi'n cofio beth ddigwyddodd ar ôl coelcerth y cwangos: mi ddiflannodd twristiaeth yng Nghymru i raddau helaeth oddi ar yr agenda cyhoeddus yng Nghymru. Dwi'n cofio ar y pryd gofyn, lle byddem ni wedi gofyn am gyfweliad efo prif weithredwr Bwrdd Croeso Cymru, mi oedd angen wedyn mynd drwy'r Llywodraeth a gofyn am gyfweliad efo'r Gweinidog a oedd â chyfrifoldeb am dwristiaeth, ac ar fater technegol, twristaidd, doedd y Gweinidog yn aml iawn ddim yn dymuno siarad. Doedd o ddim yn fater arbennig o wleidyddol; doedd o ddim yn fater o flaenoriaeth wleidyddol. Ond mi oedd yna golled yn fanna, dwi'n meddwl, o arbenigedd a thrafodaeth rhwng y rheolwyr twristiaeth yng Nghymru a'r cyhoedd yng Nghymru a chymunedau yng Nghymru, a dwi'n meddwl bod hynny'n rhywbeth sydd wedi cael ei golli.
Byddwn i'n gweld budd mawr mewn cael corff sydd â swyddogaeth benodol iawn o ddatblygu twristiaeth yng Nghymru, a gwneud hynny mewn cydweithrediad â chymunedau Cymru. Dwi ddim yn beirniadu'r gweision sifil sydd yn ymwneud â thwristiaeth o fewn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd, ond mae yna fudd o gael carfan o bobl sydd yn datblygu arbenigedd dros flynyddoedd ac yn gallu arloesi.
Un o'r pethau byddwn i'n dymuno i'r corff newydd yma wneud ydy gweithio'n agosach efo cymunedau. Mae twristiaeth, yn fy etholaeth i gymaint â'r un arall, dwi'n meddwl, yn gallu bod yn arf economaidd cryf, yn gallu bod yn rym er gwell, ond mae twristiaeth wedi'i wneud mewn ffordd sydd ddim yn sensitif i anghenion, i ddyheadau, i werthoedd cymuned, yn gallu bod yn niweidiol tu hwnt. Byddem ni yn Ynys Môn yn dymuno gweld datblygu sgwrs llawer agosach rhwng y diwydiant a'r cymunedau, ac mae hynny'n rhywbeth dwi'n meddwl y gallai'r corff yma ei wneud tra'n datblygu'r arbenigedd yna i arloesi mewn maes twristiaeth, a hynny er lles ein cymunedau ni.