Grŵp 11. Cofrestr gontractau (Gwelliannau 10, 11)

– Senedd Cymru am 6:57 pm ar 7 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:57, 7 Mawrth 2023

Grŵp 11 yw'r grŵp olaf o welliannau, ac mae'r grŵp yma ar welliannau sy'n ymwneud â chofrestr gontractau. Gwelliant 10 yw'r prif welliant yn y grŵp, ac fe wnaf i ofyn i Peredur Owen Griffiths i gynnig y gwelliant yma.

Cynigiwyd gwelliant 10 (Peredur Owen Griffiths).

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru 6:57, 7 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Diben gwelliannau 10 ac 11 yw diwygio adran 40, sy'n nodi'r wybodaeth y mae'n rhaid i awdurdodau contractio ei chynnwys yn eu cofrestr gontractau. Effaith y gwelliannau hyn, eto, fel y soniais eisoes o ran y rhai a gyflwynwyd ynghylch adran 27, yw diogelu adran 40 at y dyfodol drwy ychwanegu grym gwneud rheoliadau tebyg a fydd yn galluogi Gweinidogion i ddiwygio'r rhestr o ofynion pe bai angen. Yn ogystal â'r data sy'n cael eu casglu o ganlyniad i'r gwelliant a gytunwyd yn y grŵp blaenorol ar adroddiadau caffael cymdeithasol gyfrifol blynyddol, rydym ni'n rhagweld y dylid defnyddio'r gofrestr gontractau, er mai ei phrif ddiben yw tryloywder, i ofyn am ddata ychwanegol gan gyflenwyr. Dywedwch pe bai'n dod i'r amlwg i Weinidog yn y dyfodol mewn Llywodraeth yn y dyfodol bod angen data penodol i fwrw ymlaen ymhellach â'n huchelgeisiau i gefnogi'r gwerth sy'n cael ei ychwanegu at economi Cymru o gaffael, yna gellid gwneud y ddadl honno i'r Senedd. Fel gyda llawer o'r gwelliannau yr wyf i wedi eu cyflwyno heddiw, mae hwn yn ymwneud â sicrhau bod y ddeddfwriaeth hon yn addas i'r diben y tu hwnt i flwyddyn neu ddwy gyntaf ei hoes. Rwy'n gobeithio mai dyma farn y rhan fwyaf ohonom ni heddiw. Diolch yn fawr.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:59, 7 Mawrth 2023

Y Dirprwy Weinidog i gyfrannu i'r ddadl. Hannah Blythyn.

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Gan mai hwn yw'r grŵp olaf o welliannau, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch ar goedd i Peredur Owen Griffiths a'r tîm am y ffordd yr ydym ni wedi gallu cydweithio, a'r ysbryd yr ydym ni wedi gallu cydweithio ynddo, ac i chwilio am atebion mewn partneriaeth wrth ddatblygu'r ddeddfwriaeth hon. Er fy mod i hefyd yn synnu bod Joel James wedi mwynhau'r profiad, rwy'n falch ei fod serch hynny.

Mae'r Llywodraeth yn hapus i gefnogi gwelliant a fyddai'n caniatáu i ofynion y gofrestr contractau caffael gael eu diwygio yn y dyfodol. Felly, rwy'n cytuno ag awgrym Peredur y byddai grym gwneud rheoliadau o'r math hwn yn ddefnyddiol o ran diogelu'r gofynion cofrestr contractau caffael at y dyfodol fel y gallwn ni ychwanegu at y rhain yn y dyfodol, pe bai angen. Ar y sail honno, bydd y Llywodraeth yn cefnogi gwelliannau 10 ac 11.

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr. Ac i gloi fy nghyfraniad olaf yn nadl olaf hon trafodion Cyfnod 3, hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddiolch i bawb sydd wedi cynorthwyo gyda'r broses graffu: clercod y Senedd, cyfreithwyr, a thîm Plaid, a hoffwn dalu teyrnged hefyd i'r ffordd y mae'r Gweinidog a'i swyddogion wedi mynd i'r afael â'r broses graffu, ac rwy'n gobeithio y bydd hi'n teimlo'n well yn fuan. Mae'n drueni nad oedd hi yn y Siambr yma, ond rwy'n falch iddi allu cymryd rhan yn y ddadl hon.

Dydyn ni ddim wedi cytuno ar bopeth, ac ni ddylem ni chwaith, ond bydd y ddeddfwriaeth derfynol hon sy'n deillio o Gyfnod 3 yn cynrychioli cyfaddawd gwirioneddol sydd wedi cael ei wella'n enfawr o ganlyniad i'r dull hwn. Mae'n briodol nawr ein bod ni wedi ymdrin â'r ddeddfwriaeth hon am bartneriaeth gymdeithasol yn y ffordd honno a'i bod wedi cael ei thrafod yn yr union ysbryd hwnnw.

O ran cynnwys y ddeddfwriaeth, mae'n arwyddocaol bod y Senedd hon, wrth gytuno i'r gwelliannau yng Nghyfnod 3 heddiw, wedi cymryd cam pendant arall o blaid y ffordd Gymreig o ddadwneud Thatcheriaeth a rhoi fframwaith caffael ar waith sy'n gatalydd ar gyfer ailddosbarthu, gan leihau rhoi contractau allanol i ddarparwyr sector preifat rhatach a darparu dull wedi'i ysgogi gan werth, prynu gan gyflenwyr yng Nghymru sy'n talu cyflogau da ac yn parchu a hyrwyddo ein gwerthoedd yn y ffordd y maen nhw'n cyflawni eu gweithgareddau, o weithio gyda'n hundebau llafur a'n gweithwyr, a chyfyngu ar eu hawliau, nid eu cymryd i ffwrdd—a pharchu eu hawliau, nid eu cymryd i ffwrdd. Mae'n ddrwg gen i; mae hi wedi bod yn sesiwn hir. [Chwerthin.]

Mae hyn yn cynrychioli'r ddau ddewis am ddyfodol Cymru: datblygu Cymru fel cenedl i'n gweithwyr a'n busnesau lleol, neu ddarostwng ein hunain i'r tactegau rhannu a rheoli a llai o hawliau ac amddiffyniadau o dan oruchwyliaeth San Steffan, gan godi rhwystrau i streicio, protestio, a hyd yn oed pleidleisio. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gymeradwyaeth o'r ffordd gyntaf. Diolchaf i'r Gweinidog am gadarnhau y bydd y Llywodraeth yn cefnogi ein gwelliannau.

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru 7:02, 7 Mawrth 2023

Llywydd, gawn ni symud ymlaen i'r pleidleisiau olaf heno? Diolch.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 10? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. [Gwrthwynebiad.] [Torri ar draws.]

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Roedd hynna'n agos.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

Mi wnawn ni symud i bleidlais, felly, ar welliant 10, gan fod yna wrthwynebiad. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 41, 14 yn ymatal, un yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 10 wedi ei dderbyn.

Gwelliant 10: O blaid: 41, Yn erbyn: 1, Ymatal: 14

Derbyniwyd y gwelliant

Rhif adran 4336 Gwelliant 10

Ie: 41 ASau

Na: 1 AS

Ie: A-Z fesul cyfenw

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 4 ASau

Wedi ymatal: 14 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Wedi ymatal: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 7:03, 7 Mawrth 2023

Gwelliant 11 sydd nesaf. Ydy e'n cael ei symud gan Peredur Owen Griffiths?

Cynigiwyd gwelliant 11 (Peredur Owen Griffiths).

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

Ydy. Oes gwrthwynebiad i welliant 11? Nac oes, dim gwrthwynebiad i welliant 11.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 7:03, 7 Mawrth 2023

Gwelliant 12 yw'r un olaf. Peredur Owen Griffiths, yn cael ei symud?

Cynigiwyd gwelliant 12 (Peredur Owen Griffiths).

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly mi gymrwn ni bleidlais ar welliant 12. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 40, ymatal 15, un yn erbyn. Felly mae gwelliant 12 wedi ei dderbyn.

Gwelliant 12: O blaid: 40, Yn erbyn: 1, Ymatal: 15

Derbyniwyd y gwelliant

Rhif adran 4337 Gwelliant 12

Ie: 40 ASau

Na: 1 AS

Ie: A-Z fesul cyfenw

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 4 ASau

Wedi ymatal: 15 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Wedi ymatal: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 7:03, 7 Mawrth 2023

Rydym felly wedi dod i ddiwedd ystyriaeth Cyfnod 3 o'r Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru), a dwi'n datgan y bernir bod pob adran o'r Bil a phob Atodlen iddo wedi eu derbyn.

Barnwyd y cytunwyd ar bob adran o’r Bil.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 7:04, 7 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Ac os caf i wneud y sylw terfynol i'r Dirprwy Weinidog: rwy'n gobeithio y gwnewch chi wella o'ch salwch. Ond hefyd, a gaf i ddweud am wal fendigedig yw honna fel cefndir? [Chwerthin.]  

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

Dyna ddiwedd ar ein trafodion am heddiw.

Daeth y cyfarfod i ben am 19:04.