11. Cyfnod Pleidleisio

– Senedd Cymru am 6:24 pm ar 29 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:24, 29 Mawrth 2023

Dyma ni yn cyrraedd, felly, y cyfnod ar gyfer pleidleisio ac oni bai bod tri Aelod yn dymuno i fi wneud hynny, fe wnawn ni symud yn syth i'r bleidlais gyntaf. A'r bleidlais gyntaf yw'r un ar eitem 6, a'r cynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog ar bleidleisio drwy ddirprwy yw hwn. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Elin Jones. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 36, neb yn ymatal, 12 yn erbyn. Ac felly mae'r cynnig yna wedi ei gymeradwyo.

Eitem 6. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog - Pleidleisio drwy ddirprwy : O blaid: 36, Yn erbyn: 12, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Rhif adran 4421 Eitem 6. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog - Pleidleisio drwy ddirprwy

Ie: 36 ASau

Na: 12 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 12 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:25, 29 Mawrth 2023

Mae'r bleidlais nesaf ar eitem 8; hon yw'r ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod ar Fil twristiaeth Cymru. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Tom Giffard. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, 11 yn ymatal, 13 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi ei dderbyn.  

Eitem 8. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Bil twristiaeth Cymru: O blaid: 24, Yn erbyn: 13, Ymatal: 11

Derbyniwyd y cynnig

Rhif adran 4422 Eitem 8. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Bil twristiaeth Cymru

Ie: 24 ASau

Na: 13 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 12 ASau

Wedi ymatal: 11 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Wedi ymatal: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:26, 29 Mawrth 2023

Mae'r bleidlais nesaf ar eitem 9; dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar ariannu llywodraeth leol yw hon. Felly, dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 36 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod. 

Eitem 9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ariannu llywodraeth leol. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 12, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Rhif adran 4423 Eitem 9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ariannu llywodraeth leol. Cynnig heb ei ddiwygio

Ie: 12 ASau

Na: 36 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 12 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:26, 29 Mawrth 2023

Gwelliant 1 fydd nesaf, ac, os bydd gwelliant 1 yn cael ei dderbyn, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Felly, pleidlais ar welliant 1 yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal. O blaid 24, neb yn ymatal, 24 yn erbyn. Ac felly dwi yn defnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn gwelliant 1. Ac felly mae gwelliant 1 wedi ei wrthod. 

Eitem 9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ariannu llywodraeth leol. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 24, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol Ô Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

Rhif adran 4424 Eitem 9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ariannu llywodraeth leol. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths

Ie: 24 ASau

Na: 24 ASau

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 12 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:27, 29 Mawrth 2023

Sydd yn golygu nawr fod yna bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 36, neb yn ymatal, 12 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 2 wedi ei dderbyn.

Eitem 9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ariannu llywodraeth leol. Gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Sian Gwenllian: O blaid: 36, Yn erbyn: 12, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Rhif adran 4425 Eitem 9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ariannu llywodraeth leol. Gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Sian Gwenllian

Ie: 36 ASau

Na: 12 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 12 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:28, 29 Mawrth 2023

Gwelliant 3 fydd nesaf, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 36, neb yn ymatal, 12 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 3 wedi ei dderbyn. 

Eitem 9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ariannu llywodraeth leol. Gwelliant 3, a gyflwynwyd yn enw Sian Gwenllian: O blaid: 36, Yn erbyn: 12, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Rhif adran 4426 Eitem 9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ariannu llywodraeth leol. Gwelliant 3, a gyflwynwyd yn enw Sian Gwenllian

Ie: 36 ASau

Na: 12 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 12 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:28, 29 Mawrth 2023

Mae'r bleidlais olaf, felly, ar y cynnig wedi ei ddiwygio. 

Cynnig NDM8238 fel y'i diwygiwyd

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi yr amcangyfrifir bod gan awdurdodau lleol £2.75 biliwn mewn cronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio.

2. Yn cydnabod y rôl hanfodol y mae awdurdodau lleol yn ei chwarae o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru a'r heriau cyllido sy'n eu hwynebu.

3. Yn gresynu at y ffaith bod y cynnydd cyfartalog yn y dreth gyngor yng Nghymru ar gyfer 2023-2024 yn 5.5 y cant.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) comisiynu adolygiad annibynnol o fformiwla ariannu llywodraeth leol Cymru.

5. Yn cydnabod bod y dreth gyngor yn un o'r mathau mwyaf annheg o drethu a'i bod yn effeithio'n anghymesur ar ardaloedd tlotach y wlad.

6. Yn croesawu'r ymrwymiad drwy Gytundeb Cydweithio Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru i wneud y system dreth gyngor yn decach ac yn fwy blaengar.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:28, 29 Mawrth 2023

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 35 yn erbyn. Ac felly mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei wrthod. 

Eitem 9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ariannu llywodraeth leol. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 13, Yn erbyn: 35, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Rhif adran 4427 Eitem 9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ariannu llywodraeth leol. Cynnig wedi'i ddiwygio

Ie: 13 ASau

Na: 35 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 12 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:29, 29 Mawrth 2023

A dyna ni, dyna ddiwedd ar y pleidleisio am heddiw, ond dyw ein gwaith ni heb orffen.