Part of the debate – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 11 Mai 2016.
Iawn, diolch. Mae'n helpu os tynnwch eich clustffonau, wyddoch chi—nid ydych yn clywed eich hun.
A oes unrhyw enwebiadau eraill? Dim enwebiadau eraill ar gyfer y Llywydd. Gan fod gennym ddau enwebiad, hoffwn wahodd y ddau ymgeisydd i sefyll a dweud ychydig o eiriau amdanynt eu hunain, ac rwy’n gobeithio nad oes rhaid i mi arfer hawl y Llywydd i ddatgan bod eich amser ar ben y prynhawn yma; fe fyddaf yn hael. Yr enwebiad cyntaf oedd Elin Jones. Felly, galwaf ar Elin Jones i annerch y Cynulliad. Elin Jones.