1. 1. Ethol Llywydd o dan Reol Sefydlog 6

Part of the debate – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 11 Mai 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 1:32, 11 Mai 2016

Diolch, Lywydd. Croeso, bawb, i’r Cynulliad—y rhai ohonoch chi sydd yn newydd-ddyfodiaid, a’r rhai ohonoch chi sydd yn dychwelyd.

A gaf i ddweud fy mod i’n ei ffeindio hi’n anrhydedd fawr i gael fy nghynnig fel darpar Lywydd ac i roi fy enw ymlaen ger eich bron chi ar gyfer pleidlais? Mae rhai ohonoch chi yn fy adnabod i yn dda iawn, ac nid yw rhai ohonoch chi yn fy adnabod i o gwbl. Felly, cyn symud at bleidlais, fe wnaf i amlinellu rhai o’r egwyddorion a fydd yn sylfaen i fy nghyfnod i fel Llywydd, os byddaf i’n llwyddiannus.

Yn gyntaf, fe fyddwn i’n ceisio bod yn deg—yn deg—â phob un Aelod o’r Cynulliad yma, i drin pawb yn gyfartal, ac i ddiogelu hawliau pob un Aelod unigol. Yn ail, fe fyddwn i yn hyrwyddo a diogelu enw da y Cynulliad yma, ac i wneud hynny yma yn y Siambr, a thu hwnt, ym mhob rhan, ym mhob cymuned, yng Nghymru. Ac fe fyddwn i eisiau caniatáu trafodaeth ddemocrataidd, fywiog, iach yma yn y Cynulliad, ac yn dryloyw ar bob adeg. Ac, yn olaf, fe fyddwn i eisiau sicrhau hefyd bod y Senedd yma yn chwarae rhan adeiladol, gydweithredol gyda’n cyd-senedd-dai o fewn y Deyrnas Gyfunol a thu hwnt i hynny. Ac rwy’n gobeithio, y prynhawn yma, am eich cefnogaeth chi i fod yn Llywydd arnoch chi.