– Senedd Cymru am 1:30 pm ar 24 Mai 2016.
Cyn i ni ddechrau heddiw, hoffwn wneud datganiad. Rwyf wedi derbyn nifer o gwynion ynghylch iaith a ddefnyddiwyd yn y Siambr yr wythnos diwethaf gan arweinydd grŵp UKIP. Mae ein Rheolau Sefydlog yn gwahardd ymddygiad anghwrtais ac amhriodol, ac iaith sy'n groes i'r drefn, yn wahaniaethol, yn sarhaus neu'n amharu ar urddas y Cynulliad hwn.
Ar ôl adolygu'r Cofnod, nid oes gennyf unrhyw amheuaeth bod cyfraniad Neil Hamilton yr wythnos diwethaf yn mynd yn groes i’r gofynion hynny. Yn arbennig, roeddwn o’r farn bod y sarhad ar onestrwydd Aelodau eraill, trwy iaith rywiaethol, ac ensyniadau rhywiol, yn annerbyniol. Mae’r Aelod a minnau wedi cael sgwrs breifat, ac rwyf wedi egluro fy nisgwyliadau a chonfensiynau’r Cynulliad. Rwy’n ddiolchgar iddo am dderbyn fy marn ar y mater hwn, barn yr wyf yn gobeithio fydd yn ganllaw i'r holl Aelodau ar gyfer eu cyfraniadau yn y dyfodol.
This is the first statement of this kind I have given, on only the third day I have presided over debate. Should any Member interpret that as meaning I intend to be in any way harsher on the group that is newest to this Assembly, then they are wrong. As Presiding Officer, all Members are equal in my eyes. I will favour no party or Member over another. I will encourage debate that is vibrant, vigorous and robust. Indeed, I wish to encourage debate that is more vibrant, more vigorous and robust than that which has characterised the Assembly in the past.
But I expect every Member, from the newest to the most experienced, to engage in mature parliamentary debate. Members must be sufficiently skilled to do so without crossing the lines described by our Standing Orders. As long as they do that, all Members will be allowed to express strong views, irrespective of party. I will call to order anyone who detracts from the dignity of this Assembly, or who insults the integrity of other Members or the voters who elected them. Neil Hamilton.
Wel, diolch yn fawr iawn, Lywydd.
First of all, I’d like to say that, of course, I respect your authority, as the Presiding Officer of this Assembly, and I welcome the spirit of tolerance in which you have made your statement this afternoon, and, in particular, as you propose no further action in respect of the words that I uttered last week. I had no intention to upset anybody in any way. I thought that the image that I conjured up was sufficiently ludicrous not to be taken seriously by anybody. I might have said something like, ‘The Liberals and Plaid Cymru getting into bed with Labour’. This is something—[Interruption.]
Ar hyn o bryd, nid wyf eisiau ailadrodd cyfraniad yr wythnos diwethaf, felly rwy’n meddwl y byddai'n well, er eich lles eich hun, i chi ddirwyn eich sylwadau i ben nawr ac i ni symud ymlaen at y busnes sydd dan sylw heddiw.
Wrth gwrs, Madam Lywydd. Y cwbl yr oeddwn i eisiau ei wneud oedd ailadrodd nad oeddwn i'n bwriadu cyfleu unrhyw amarch at y Cynulliad nac at unrhyw Aelod ohono. Roeddwn i’n ceisio gwneud pwynt doniol o fater difrifol. Rwy'n sylweddoli bod synnwyr digrifwch yn beth unigol. Croesawaf yr hyn a ddywedasoch hefyd am beidio â bod eisiau tarfu ar natur ddigymell y dadlau yn y Siambr hon, ac, yn wir, am barchu hawliau pleidiau lleiafrifol ynddi.
Rwyf ar fin tarfu ar natur ddigymell y dadlau, a symud ymlaen at y busnes nesaf. Felly, diolch i chi am eich cyfraniad, a symudaf ymlaen nawr at y cwestiynau i'r Prif Weinidog.