Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 24 Mai 2016.
Diolch yn fawr iawn. Rwy’n falch iawn o glywed eich bod chi’n cydnabod bod angen yn awr symud ymlaen i hyfforddi meddygon. A fydd y cynlluniau yn cynnwys edrych ar y ddarpariaeth ar gyfer gogledd Cymru? Oherwydd mae’r problemau, fel y gwyddoch chi, yn ddybryd iawn yn y gogledd, a’r angen am feddygon yn yr ysbytai ac mewn meddygfeydd gwledig yn un dwys iawn. A fyddwch chi, felly, yn fodlon symud ymlaen rŵan i greu cynllun busnes ar gyfer ysgol feddygol i’r gogledd, ym Mangor? Mae fy rhagflaenydd, Alun Ffred Jones, wedi cychwyn ar y gwaith gan ddefnyddio’r arbenigedd sydd ym Mangor ar gyfer symud ymlaen gyda’r cynllun, a hoffwn eich gweld chi’n ymrwymo heddiw i greu cynllun busnes ar gyfer hyn. Diolch.