Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 24 Mai 2016.
Mae hwn yn rhywbeth i’w ystyried, wrth gwrs, ac rwy’n edrych ymlaen i weithio o dan dermau’r cytundeb, er mwyn sicrhau ein bod ni yn symud ymlaen i sicrhau bod mwy o weithwyr yn y sector gofal a hefyd weithwyr iechyd, wrth gwrs, yma yng Nghymru. Mae’n bwysig dros ben nad ydym ni’n canolbwyntio ddim ond ar ddoctoriaid, pwysig ag y maen nhw, ond yn ystyried ffyrdd i helpu pob proffesiwn sydd yn gweithredu gofal a hefyd iechyd i’n pobl.