Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 24 Mai 2016.
Gwnaf yn wir, a gwn y bydd y Gweinidog newydd yn ystyried hyn fel mater o frys yn rhan o'i bortffolio i adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi'i wneud. Rydym yn gwybod bod hyfforddi mwy o weithwyr proffesiynol o bob math yn y sector iechyd yn bwysig, ond hefyd eu recriwtio, gan nad yw eu hyfforddi o reidrwydd yn golygu eu bod yn aros yng Nghymru neu yn y DU yn wir. Ac, fel y mae’r Aelod yn gwybod, rydym wedi bod yn gweithio i sicrhau bod Cymru’n cael ei hystyried yn wlad dda i weithio ynddi, gan ein bod yn gwybod bod y gystadleuaeth yn chwyrn ledled Ewrop, a ledled y byd, am weithwyr meddygol proffesiynol, ac mae'n hynod bwysig bod gennym ni wasanaeth iechyd sy'n cael ei ystyried yn lle deniadol i weithio ynddo.