Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 24 Mai 2016.
Brif Weinidog, nid oedd ymgyrch y Llywodraeth ddiwethaf i recriwtio meddygon yn llwyddiannus. Roedd hynny’n eglur o'r ffaith bod cael gweld meddygon teulu ar draws y canolbarth yn dod yn fwyfwy anodd. A gaf i ofyn i chi beth mae eich Llywodraeth glymblaid newydd yn bwriadu ei wneud i fynd i'r afael yn benodol â'r prinder meddygon mewn cymunedau mwy anghysbell ledled Cymru?