Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 24 Mai 2016.
Mae peidio â chael streic meddygon iau yn ddechrau da, rwy’n credu, ac mae hynny'n rhywbeth nad ydym yn bwriadu ei wneud. Ond bydd yn gwybod, wrth gwrs, bod menter gydweithredol y canolbarth yn edrych yn ofalus iawn ar hyn—ar y ddarpariaeth o wasanaeth iechyd—nid yn unig yn ei ardal ef, ond mewn ardaloedd eraill ar draws canol ein gwlad, ac mae’r gwaith hwnnw’n mynd rhagddo'n dda iawn. Ac mae hwnnw’n fodel y credaf, gan ei fod yn gweithio'n llwyddiannus, y gellir ei fabwysiadu mewn rhannau eraill o Gymru hefyd.