Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 24 Mai 2016.
Diolch i chi am yr ateb yna, Brif Weinidog. Un o'r pethau allweddol yn yr etholiad a gynhaliwyd yn ddiweddar ar gyfer y Cynulliad yng Nghanol De Cymru oedd y cynnig i gael ffordd osgoi ar gyfer Dinas Powys. Mae hyn wedi ei grybwyll yn aml dros flynyddoedd lawer, a chyflwynwyd fersiynau amrywiol o bolisïau a chynigion i geisio osgoi pentref Dinas Powys. Gyda'r datblygiadau enfawr sy’n digwydd yn y Barri nawr—datblygiad y glannau, â 2,000 o dai—a cheisiadau diweddar yn Sili yn cael eu cymeradwyo hefyd, mae'r galw am y ffordd osgoi hon yn fwy fyth nawr nag y bu erioed. Pa gynigion wnaiff Llywodraeth Cymru eu cyflwyno yn y tymor hwn fel y gall trigolion Dinas Powys deimlo'n hyderus y byddwch yn cefnogi cais am gyllid ar gyfer ffordd osgoi i Ddinas Powys?