<p>Datblygiadau i’r Seilwaith Trafnidiaeth</p>

2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 24 Mai 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative

2. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygiadau i’r seilwaith drafnidiaeth yn ystod y pumed Cynulliad? OAQ(5)0015(FM)

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:38, 24 Mai 2016

(Cyfieithwyd)

Mae'r cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol yn nodi ein buddsoddiad ar gyfer seilwaith trafnidiaeth hyd at 2020.

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am yr ateb yna, Brif Weinidog. Un o'r pethau allweddol yn yr etholiad a gynhaliwyd yn ddiweddar ar gyfer y Cynulliad yng Nghanol De Cymru oedd y cynnig i gael ffordd osgoi ar gyfer Dinas Powys. Mae hyn wedi ei grybwyll yn aml dros flynyddoedd lawer, a chyflwynwyd fersiynau amrywiol o bolisïau a chynigion i geisio osgoi pentref Dinas Powys. Gyda'r datblygiadau enfawr sy’n digwydd yn y Barri nawr—datblygiad y glannau, â 2,000 o dai—a cheisiadau diweddar yn Sili yn cael eu cymeradwyo hefyd, mae'r galw am y ffordd osgoi hon yn fwy fyth nawr nag y bu erioed. Pa gynigion wnaiff Llywodraeth Cymru eu cyflwyno yn y tymor hwn fel y gall trigolion Dinas Powys deimlo'n hyderus y byddwch yn cefnogi cais am gyllid ar gyfer ffordd osgoi i Ddinas Powys?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:39, 24 Mai 2016

(Cyfieithwyd)

Rwy'n gyfarwydd â'r darn hwn o ffordd, wrth gwrs, ac mae'n ddarn o ffordd prysur. Mater i Gyngor Bro Morgannwg ei ystyried yw hwn. Ni fyddai'n gefnffordd; byddai'n ffordd sy’n cael ei rhedeg gan yr awdurdod lleol, ond, wrth gwrs, byddem yn hapus i archwilio unrhyw gynigion yr hoffent eu cyflwyno.

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour

(Cyfieithwyd)

Brif Weinidog, dylai’r cyfleuster benthyca cynnar o £500 miliwn y mae Llywodraeth y DU wedi ei gyhoeddi ar gyfer ffordd liniaru i'r M4, yn fy marn i, fod ar gael ar gyfer beth bynnag y mae Llywodraeth Cymru yn ei gredu yw'r ateb gorau i’r problemau ar yr M4 o amgylch Casnewydd. A fyddech chi’n cytuno â mi, yn unol ag ysbryd datganoli, mai Llywodraeth Cymru ddylai fod yn gyfrifol am benderfynu sut i ddefnyddio'r cyfleuster benthyca cynnar hwnnw?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:40, 24 Mai 2016

(Cyfieithwyd)

Wel, dyma’r sefyllfa: bydd y cyfleuster benthyca ar gael yn gyffredinol ond mae’n bosibl ei gael yn gynnar ar gyfer yr M4. Wrth gwrs, ni fyddem yn cytuno i sefyllfa lle byddem yn gweld sefyllfa barhaol lle byddai amodau’n gysylltiedig ag unrhyw bwerau benthyca a fyddai'n cael eu harfer, ond dyna'r sefyllfa bresennol—ar gyfer yr M4 yn unig y ceir defnyddio’r arian.

Photo of Mark Reckless Mark Reckless UKIP

(Cyfieithwyd)

O ystyried y cwestiynau o’i feinciau cefn ei hun, a yw'r Prif Weinidog yn rhannu fy mhryder, os na fydd yn ystyried dewisiadau eraill ac eithrio’r llwybr du, efallai y byddwn yn canfod nad oes unrhyw ffordd liniaru i'r M4 yn cael ei hadeiladu o gwbl?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:41, 24 Mai 2016

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu ei bod yn hynod bwysig cael ymchwiliad cyhoeddus. Heb ragfarnu’r mater, dyna’n sicr yw fy marn i. Rwy’n meddwl bod angen i’r ymchwiliad cyhoeddus fod mor eang â phosibl. Mae angen iddo fod yn ymchwiliad cyhoeddus lleol, ac rwy’n credu y byddai angen i’r ymchwiliad ystyried amrywiaeth eang o faterion gan gynnwys cynigion amgen. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig fel y gall y cyhoedd archwilio drostynt eu hunain manteision ac anfanteision y gwahanol brosiectau. Byddwn yn disgwyl i’r ymchwiliad hwnnw gychwyn yn yr hydref a byddai'n cymryd tua blwyddyn i’r ymchwiliad ddod i bwynt pryd y gellid gwneud penderfyniad.

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour

(Cyfieithwyd)

Brif Weinidog, yn ogystal ag ystyried seilwaith i gefnogi teithiau pellter hir, a fyddech chi’n ystyried buddsoddi mewn seilwaith i gefnogi lleihau'r defnydd o geir ar gyfer teithiau pellter byr? Mae tua 20 y cant o deithiau mewn car am bellteroedd o lai na milltir, ac mae'r rhain yn ychwanegu'n sylweddol at dagfeydd lleol. Ar ddiwedd tymor diwethaf y Cynulliad, galwodd y pwyllgor menter am arweinyddiaeth gryfach a mwy o fuddsoddiad i roi Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 ar waith. Gwn ei fod yn falch iawn o'r Ddeddf honno. A fyddai'n ystyried sut, gyda'i Weinidogion, y gall wneud yn siŵr bod y Ddeddf honno’n gwireddu ei photensial ac adolygu ei gweithrediad hyd yn hyn?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:42, 24 Mai 2016

(Cyfieithwyd)

Yn sicr, a dyna pam, wrth gwrs, mae gennym ni’r cynigion ar gyfer y metro. Rydym ni’n gwybod na all ffyrdd fod yn ateb i bopeth; mae'n rhaid iddyn nhw redeg ochr yn ochr â gwelliannau i drafnidiaeth gyhoeddus. Dyna y bwriedir i’r metro yn y de-ddwyrain ei gyflawni. Mae'n fodel yr ydym yn bwriadu ei ddefnyddio mewn rhannau eraill o Gymru, fel y gogledd-ddwyrain, yn y dyfodol. Cyfleustra’r gwasanaeth, trenau dibynadwy, gwasanaeth rheolaidd—mae'r rhain i gyd yn ffyrdd y gallwn eu defnyddio i annog mwy o bobl allan o'u ceir.