Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 24 Mai 2016.
Brif Weinidog, dylai’r cyfleuster benthyca cynnar o £500 miliwn y mae Llywodraeth y DU wedi ei gyhoeddi ar gyfer ffordd liniaru i'r M4, yn fy marn i, fod ar gael ar gyfer beth bynnag y mae Llywodraeth Cymru yn ei gredu yw'r ateb gorau i’r problemau ar yr M4 o amgylch Casnewydd. A fyddech chi’n cytuno â mi, yn unol ag ysbryd datganoli, mai Llywodraeth Cymru ddylai fod yn gyfrifol am benderfynu sut i ddefnyddio'r cyfleuster benthyca cynnar hwnnw?