Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 24 Mai 2016.
Yr anhawster, wrth gwrs, â'r ddadl y mae’n ei gwneud yw, pe byddai’r UE yn codi tariffau yn erbyn dur a'r DU yn gadael yr UE, byddai'r tariffau hynny’n berthnasol ar gyfer dur y DU. Felly, byddem yn canfod ein hunain yn wynebu rhwystr tariff enfawr wedyn pe byddem yn dymuno allforio i mewn i'r UE, ac mae 30 y cant o'r dur a gynhyrchir yng Nghymru yn cael ei allforio.