2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 24 Mai 2016.
Rwy’n galw nawr ar arweinwyr y pleidiau i holi’r Prif Weinidog, ac. yn gyntaf, arweinydd yr wrthblaid, Leanne Wood.
Diolch, Lywydd. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i dalu teyrnged i’r ymgyrchydd o Gaerdydd, Annie Mulholland, a fu farw ddydd Sul yn anffodus ar y ar ôl ymladd brwydr hir â chanser. Roedd Annie yn ymgyrchydd uchel ei chloch dros gronfa cyffuriau a thriniaethau newydd i roi terfyn ar y loteri cod post a'r cymalau eithriadolbeb, a fyddai'n golygu na fyddai cleifion yn cael eu gorfodi i symud i wahanol gyfeiriad neu ar draws y ffin mwyach i gael gafael ar y cyffuriau neu’r triniaethau sydd eu hangen arnynt. Mae'n deyrnged i waith Annie y bydd y system annheg honno yn dod i ben nawr. A allwch chi gadarnhau heddiw y bydd eich Llywodraeth yn bwrw ymlaen â sefydlu panel annibynnol i adolygu'r system bresennol ac y bydd pobl sy'n cael eu heffeithio gan ganser yn gallu cael mewnbwn ac yn cael cymryd rhan yn y newidiadau hynny o'r cychwyn cyntaf?
A gaf i’n gyntaf gydymdeimlo â theulu Annie? Mae'n gyfnod anodd iawn iddyn nhw, rwy'n gwybod. Gallaf, gallaf gadarnhau, wrth gwrs, o dan delerau'r compact a gytunwyd rhwng ein pleidiau, mai ein bwriad, wrth gwrs—. Wel, byddwn yn cyflwyno cronfa triniaethau newydd, ond, yn ogystal â hynny, byddwn yn ystyried a oes ffordd well o ymdrin â cheisiadau cyllido cleifion unigol ac wrth gwrs i weld a oes gair gwell neu derminoleg well y gellir ei defnyddio—yn hytrach na’r gair 'eithriadol'.
Dylid eich canmol, rwy’n credu, Brif Weinidog, am eich camau ar y pwynt hwn oherwydd, yn ystod yr ymgyrch etholiadol, gwnaethoch chi a'ch ymgeiswyr ddadlau yn erbyn rhoi terfyn ar y loteri cod post a’r cwestiwn hwn o eithriadoldeb. Ni wnaethoch gyfarfod ag ymgyrchwyr o ymgyrch Hawl i Fyw ychwaith. A wnewch chi gytuno nawr i gyfarfod ag Irfon a Rebecca Williams o'r grŵp ymgyrchu hwnnw fel y gallant rannu eu profiadau â chi ac fel y gallant hefyd wneud yn siŵr bod y system newydd yn cael gwared ar rwystrau i gleifion fel Irfon ac Annie Mulholland?
Mae'n rhaid i mi ddweud wrth arweinydd yr wrthblaid fy mod i wedi cwrdd ag Irfon a Rebecca Williams. Cefais gyfarfod â nhw yng Nghyffordd Llandudno yn wir, yn y swyddfeydd yno. Roedd yn gyfarfod defnyddiol iawn. Roedd materion a godwyd ganddynt nad oeddwn yn ymwybodol ohonynt ac maen nhw wedi fy helpu i geisio penderfynu sut y dylid llunio polisi yn y dyfodol.
Hefyd, cyn yr etholiad, rhoddais ymrwymiad, ac, yn wir, rwy’n credu—wel, ni allaf siarad ar ran arweinwyr pleidiau eraill, ond rwy’n meddwl mai’r ymrwymiad oedd bod y cynnig yno i bawb gyfarfod ag Irfon unwaith eto ac i ystyried y materion unwaith eto.
Rwy’n croesawu’r ymrwymiad hwnnw gennych chi y prynhawn yma, Brif Weinidog. Cafodd y cytundeb yr wythnos diwethaf rhwng Plaid Cymru a Llafur ar y mater hwn ei groesawu’n frwd gan ymgyrchwyr ac elusennau, oherwydd yr ymrwymiad penodol hwnnw i greu system decach a mwy cyfiawn yma yng Nghymru. Ni fyddai’r ymrwymiad hwn wedi bod yno oni bai am yr ymgyrchwyr hynny. A wnewch chi ymrwymo heddiw y byddwch chi a'ch Gweinidog iechyd newydd yn ymateb yn gadarnhaol i argymhellion yr adolygiad er mwyn sicrhau, yn y dyfodol, na fydd y bobl sydd angen cyffuriau a thriniaethau newydd yn dioddef mwyach yr anghyfiawnderau a wynebwyd gan Irfon Williams ac Annie Mulholland ymhlith eraill?
Wel, yn sicr, mae angen archwilio’r system bresennol o ran a ddylid cael panel cenedlaethol neu baneli lleol ar gyfer ceisiadau cyllido cleifion unigol—rydym ni’n agored i hynny—ac, wrth gwrs, y defnydd o'r gair 'eithriadoldeb '. Mae'n rhaid cael rhywbeth, neu fel arall byddai anawsterau o ran penderfynu sut y byddai cyffuriau’n cael eu neilltuo, ond, heb ragfarnu unrhyw beth, rydym ni’n mynd i’r afael â hyn gyda meddwl agored. Rydym yn gwrando ar safbwyntiau pobl eraill sydd yn dweud ei bod yn anodd pan fo gennych chi sefyllfa lle gall rhywun mewn un rhan o Gymru gael gafael ar gyffur ac na all rhywun mewn rhan arall o Gymru. Yn amlwg, mae honno'n sefyllfa anodd iawn i’w hamddiffyn a dyna pam, wrth gwrs, yn unol ag ysbryd a thelerau'r cytundeb, y mae hyn yn rhywbeth yr ydym ni’n bwriadu ei ailystyried.
Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.
Diolch i chi, Lywydd. Hoffwn gysylltu fy hun â'r sylwadau am Annie Mulholland. Cefais y pleser o noddi'r digwyddiad a gynhaliwyd ac a gafodd ei gefnogi’n eang gan lawer o Aelodau'r Cynulliad blaenorol, ac, yn wir, siaradodd y Gweinidog iechyd blaenorol yn y digwyddiad hwnnw yn y Pierhead. Trwy ei dycnwch, trwy ei hymroddiad a'i hymrwymiad, yn hytrach na gadael i’w salwch ei hatal rhag gwneud pethau, agorodd lawer iawn o ddrysau gan wthio’r syniad i feddyliau llawer o bobl na ddylai unrhyw beth fod yn amhosibl, waeth beth fo diagnosis rhywun. Credaf fod y digwyddiad hwnnw draw yn y Pierhead wir wedi pwysleisio cryfder cymeriad y foneddiges, Annie Mulholland, a gall ei theulu fod yn haeddiannol falch o'i hymdrechion. Rwy'n siŵr y byddent wedi dymuno iddi fod gyda nhw heddiw, ond mae’n sicr ei bod wedi gwneud y defnydd gorau o'r amser a oedd ganddi ar ôl pan gafodd ei diagnosis terfynol. Felly, bydd llawer o aelodau'r gymuned yn ei cholli'n arw ac felly hefyd, mewn gwirionedd, Aelodau'r Cynulliad blaenorol a ffrindiau a theulu.
Brif Weinidog, rhoesoch eich Llywodraeth at ei gilydd yr wythnos diwethaf ar ôl, yn amlwg, cael eich ethol yn Brif Weinidog. A allwch chi gadarnhau heddiw fod pob aelod o'ch Cabinet yn rhwymedig i gydgyfrifoldeb ar yr holl faterion sy'n cael eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru?
Gallaf.
Diolch i chi am yr ateb yna. [Chwerthin.] Un o'r rhaglenni allweddol y byddwch yn ei chyflwyno, yn amlwg, yw ffordd liniaru’r M4 ac, yn benodol, eich cefnogaeth bersonol eich hun, ac, felly, cysylltu hynny â Llywodraeth Cymru, i ddatblygiad y llwybr du. Nawr, atebwyd cwestiwn gennych yn gynharach am y broses ynghylch yr ymchwiliad cyhoeddus. Mewn cwestiwn ysgrifenedig yn ôl i mi yr wythnos hon, rydych chi wedi nodi mai 2018—gwanwyn 2018 fyddai’r dyddiad comisiynu ar gyfer y ffordd. A allwch chi ddweud, yn hyderus, eich bod yn credu bod gwanwyn 2018 yn ddyddiad comisiynu realistig, a beth sy’n eich gwneud yn ffyddiog y glynir at y dyddiad hwnnw fel y gall yr arian gael ei dynnu i lawr a'i ddefnyddio i ddatrys y broblem ynglŷn â'r dagfa o amgylch Casnewydd?
Wel, rwy'n hyderus y bydd yr ymchwiliad yn dod i ben erbyn rhan olaf y flwyddyn nesaf. Ni allwn ragfarnu’r hyn y bydd yr ymchwiliad yn ei ddweud. Rwy’n derbyn y bu llawer o ddadlau yn y Siambr hon a'r tu allan am y llwybr du yn erbyn y llwybr glas, neu lwybr arall efallai. Rydych chi wedi fy nghlywed i’n dweud bod y llwybr glas yn peri problemau mawr o ran y ffaith mai ffordd ddeuol ydyw, mae'n mynd heibio tai llawer o bobl, ac yn golygu dymchwel adeiladau. Felly, nid yw'n heb ei boenau. O ran y llwybr du—wrth gwrs, rydym ni’n gweld y bu rhai gwrthwynebiadau; mae angen eu harchwilio ac rwy'n fwy na pharod i gael ymchwiliad sy’n archwilio nid yn unig y llwybr du, ond sy’n edrych ar lwybr arall hefyd. Mae'n bwysig bod y cyhoedd yn deall y rhesymeg y tu ôl i'r safbwynt yr ydym ni wedi ei fabwysiadu hyd yma, sef ei bod yn ymddangos mai’r llwybr du yw’r llwybr mwyaf tebygol.
Diolch i chi am yr ateb yna, Brif Weinidog. Yn amlwg, mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo ei hun bellach i gomisiynu’r prosiect hwn erbyn 2018—gwanwyn 2018. Rwy’n sylweddoli bod yr ymchwiliad cyhoeddus y tu allan i’ch rheolaeth, ond, gyda gwynt teg, bydd y comisiynu’n digwydd, a byddwn yn edrych ar ddatblygiadau ar y materion hyn gyda diddordeb.
Y mater arall sydd yn sensitif o ran amser, yn amlwg, yw’r etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai y flwyddyn nesaf. Yn amlwg, yn y Cynulliad diwethaf—ac rydych chi wedi siarad yn helaeth ar y mater penodol hwn ynghylch ad-drefnu llywodraeth leol ac rydych chi wedi cyfrannu llawer o gyfalaf gwleidyddol personol i ad-drefnu llywodraeth leol ledled Cymru. A allwch chi ddweud yn hyderus heddiw y bydd etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai y flwyddyn nesaf ac na fydd eich Llywodraeth yn ceisio gohirio’r etholiadau hynny trwy gyflwyno cynigion newydd ar gyfer map llywodraeth leol yma yng Nghymru neu, yn wir, newid y dyddiad fel y gellir cael ymgynghoriad ehangach ar ad-drefnu llywodraeth leol yng Nghymru?
Na, rwy’n credu y bydd yr etholiadau hynny’n cael eu cynnal. Ni allaf ragweld sefyllfa lle na fyddent. Felly, i ateb ei gwestiwn, byddant, mi fyddant yn cael eu cynnal y flwyddyn nesaf. O ran ad-drefnu llywodraeth leol, mae'n amlwg i mi na fyddai'r map yn ennill cefnogaeth yn y Siambr hon, ond rwyf yn gwybod, yn y Siambr hon, bod cefnogaeth i ad-drefnu llywodraeth leol. Felly, mae'n fater o dreulio’r ychydig fisoedd nesaf yn archwilio pa dir cyffredin allai fod rhwng y pleidiau fel y gallwn gael gwared ar y sefyllfa lle mae gennym ni 22 o awdurdodau lleol, gydag un ohonynt wedi chwalu’n gyfan gwbl, a chwech ohonynt a oedd yn destun mesurau arbennig ar un adeg ym maes addysg. Nid yw'n fodel cynaliadwy. Does dim llawer iawn o anghytundeb dros hynny, ond, wrth gwrs, mae'n gwestiwn o ba un a ellir dod i gytundeb ar sail drawsbleidiol ar fodel mwy cynaliadwy ar gyfer llywodraeth leol yn y dyfodol yng Nghymru.
Arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton.
Diolch i chi, Lywydd. Mr Prif Weinidog, byddwch wedi gweld yn y newyddion yr wythnos hon bod yr Unol Daleithiau wedi cynyddu ei thariffau ar fewnforion dur wedi’i rolio’n oer i'r Unol Daleithiau o 266 y cant i 522 y cant. Yr wythnos hon, o bob wythnos, wrth gwrs, dyfodol cynhyrchu dur ym Mhort Talbot sydd flaenllaw ym meddyliau pob un ohonom. Mae gan yr UE, mewn gwrthgyferbyniad â’r Unol Daleithiau, dariff o 14 y cant ar y math hwnnw o fewnforio dur i'r UE. A wnewch chi gefnogi ein cynnig y dylai'r UE gynyddu ei dariffau i'r lefelau y mae’r Unol Daleithiau wedi ei wneud?
Gwnaf, mi wnaf, a bydd yr Aelod, wrth gwrs, yn gwybod mai Llywodraeth y DU, yn anffodus, a wrthwynebodd codi’r tariffau hynny. Nid yr UE oedd yn ei wrthwynebu; roedd yn safbwynt a fabwysiadwyd ar y pryd gan Lywodraeth y DU. Maen nhw wedi rhoi esboniad am hynny, ond, rwy’n meddwl, yng ngoleuni'r hyn sydd wedi digwydd ar draws y byd, bod angen i ni weld tegwch i’n cynhyrchwyr dur ein hunain.
Nid oes gennyf unrhyw anhawster yn cymeradwyo'r feirniadaeth yr ydych chi, fel Prif Weinidog, wedi ei gwneud o’n Llywodraeth am beidio â chefnogi tariffau realistig ar ddur wedi’i ddympio o Tsieina. Yn sicr—[Torri ar draws.] Yn sicr, nid polisi UKIP yw cefnogi’r lefel bresennol o dariffau yn yr UE. Ond yr hyn y mae hyn yn ei ddangos i ni, yn gyntaf ac yn bennaf, yw'r hyn sy'n digwydd pan fyddwch chi’n allanoli eich polisi masnach i gorff anetholedig wedi’i leoli mewn gwlad arall. Felly, yr hyn yr hoffwn i ei weld, ac rwy’n gobeithio y byddai'r Prif Weinidog yn cytuno â hyn, yw dychweliad ein polisi i gyflwyno dyletswyddau gwrth-ddympio i’r Deyrnas Unedig hon trwy adennill ein sedd ar Sefydliad Masnach y Byd. Tybed a fyddai'r Prif Weinidog yn cytuno â hynny.
Yr anhawster, wrth gwrs, â'r ddadl y mae’n ei gwneud yw, pe byddai’r UE yn codi tariffau yn erbyn dur a'r DU yn gadael yr UE, byddai'r tariffau hynny’n berthnasol ar gyfer dur y DU. Felly, byddem yn canfod ein hunain yn wynebu rhwystr tariff enfawr wedyn pe byddem yn dymuno allforio i mewn i'r UE, ac mae 30 y cant o'r dur a gynhyrchir yng Nghymru yn cael ei allforio.
Ond nid maint yr allforion sydd gennym ni o’r wlad hon i’r UE yw’r broblem wirioneddol â datganoli yn y wlad hon, ond y llif o fewnforion o Tsieina i mewn i'r UE, sy'n achosi parlys ar draws y diwydiant dur yn yr UE cyfan. Y broblem sy'n ein hwynebu yw nad gwleidyddion etholedig, yn y pen draw, sy'n gwneud y penderfyniadau yn yr UE. Dyna pam mai ein hargymhelliad ni yw i bobl y wlad hon, yng Nghymru yn arbennig, bleidleisio i adael yr UE ar 23 Mehefin.
Mae'n rhaid i ni gofio mai penderfyniad a wnaed gan Lywodraeth etholedig y DU oedd peidio â chefnogi codi’r tariffau. Dyna oedd y penderfyniad a wnaed, nid gan Lywodraeth y DU ar ei phen ei hun, ond gan Lywodraethau eraill—o leiaf un Llywodraeth arall—hefyd. Ond, o'm safbwynt i, rwy’n credu ei bod yn hynod bwysig bod gennym ni rwystr tariff i atal mewnforion rhad rhag dod yma o rannau eraill o'r byd, ond nad oes gennym rwystr tariff i atal dur y DU rhag cael ei fewnforio i'r UE.