2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 24 Mai 2016.
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fewnbwn Llywodraeth Cymru i ddatblygiad Wylfa Newydd? OAQ(5)0013(FM) [W]
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo’n llwyr i’r datblygiad hynod bwysig hwn. Rydym ni’n disgwyl y bydd y flwyddyn hon yn flwyddyn arwyddocaol i’r prosiect, sydd yn werth £12 biliwn, yn enwedig gan fod Horizon wedi cyhoeddi tîm cyflenwi newydd ar gyfer Wylfa Newydd yr wythnos diwethaf.
Diolch. Mae cyfnod y pumed Cynulliad yn mynd i fod yn gyfnod allweddol iawn, wrth gwrs, o ran datblygiad Wylfa Newydd. Nid Llywodraeth Cymru fydd yn penderfynu pa un ai a fydd y datblygiad yn mynd yn ei flaen, er bod popeth yn edrych fel petai’n symud i’r cyfeiriad hwnnw ar hyn o bryd, ond mae gan Lywodraeth Cymru rôl bwysig iawn, iawn i’w chwarae o ran sicrhau bod y datblygiad yn dod â’r budd mwyaf posib i Ynys Môn—o ran swyddi lleol ac o ran datblygu sgiliau ac ati, ond hefyd o ran cyflwyno a gwthio am fesurau lliniaru mewn nifer o feysydd, o dwristiaeth i bwysau ar y sector tai, ac ar y gwasanaethau cyhoeddus drwyddyn nhw draw. A all y Prif Weinidog roi ymrwymiad i gynyddu capasiti yn yr adran yn y Llywodraeth sy’n ymwneud â’r datblygiad hwn, er mwyn sicrhau bod buddiannau Ynys Môn, a gogledd Cymru yn ehangach, yn cael eu gwarchod drwy’r cyfnod datblygu?
Mae hyn wedi digwydd yn barod. Mae yna fwrdd rhaglen niwclear wedi cael ei sefydlu, sef bwrdd Llywodraeth Cymru, a nod y bwrdd yw sicrhau ein bod ni’n sicrhau’r budd economaidd mwyaf i’r ynys a hefyd i Gymru yn gyfan gwbl. Mae gyda’r bwrdd hwnnw sawl ffynhonnell waith sy’n cael eu hystyried ar hyn o bryd, sy’n cynnwys pethau fel sgiliau, pethau fel datblygu busnesau, marchnata, addysg a hefyd budd economaidd. Felly, mae’r gwaith yna wedi dechrau yn barod er mwyn sicrhau bod yr ynys ei hunan yn gallu cael y budd mwyaf sy’n bosibl o’r datblygiad hwn.
Sefydlwyd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i sicrhau cymaint o gyfleoedd â phosibl a gynigir gan sawl prosiect graddfa fawr sydd ar y gweill yn y gogledd, a Wylfa Newydd yw'r mwyaf o’r rheini. Mae Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, gan gynnwys pob un o'r chwe chyngor sir, cyngor busnes gogledd Cymru a'r trydydd sector, wedi croesawu cynnig Llywodraeth y DU o gytundeb twf gogledd Cymru a chyllid ychwanegol, ond mae angen darparu hynny mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru. Sut mae, neu y bydd, eich Llywodraeth Cymru yn ymateb i'r cynnig hwnnw?
Wel, o ystyried y ffaith ei fod eisoes yno yn y lle cyntaf, yn gadarnhaol. Bydd yn gwybod, yr Aelod, ein bod wedi rhoi cynlluniau ar waith ar gyfer y gogledd-ddwyrain—nid yw hynny'n eithrio’r gogledd-orllewin; rydym ni’n gwybod pa mor bwysig yw'r gogledd-orllewin—oherwydd, ar un adeg, roedd y Northern Powerhouse, fel y’i gelwir, yng ngogledd-orllewin Lloegr, yn cael ei gyflwyno fel cystadleuydd. Nawr, rydym ni’n gweld nifer o gyfleoedd i weithio ar y cyd ar draws y ffin i sicrhau ffyniant ar draws y ffin, a dyna beth fyddwn ni’n ceisio ei wneud. Nid yw ar gyfer y gogledd-ddwyrain yn unig; rydym ni eisiau gweld y ffyniant hwnnw’n ymestyn yr holl ffordd ar draws ogledd ein gwlad.
Brif Weinidog, bydd effaith economaidd Wylfa Newydd yn arwain at 6,800 o weithwyr yn anterth yr adeiladu. Nawr, bydd llawer o'r bobl hyn yn teithio ar hyd coridor y gogledd. Beth mae eich Llywodraeth yn ei wneud o ran y dagfa sydd gennym ni eisoes gyda phont Britannia?
Rydym ni eisoes wedi archwilio'r dewisiadau ar gyfer trydedd pont ar draws y Fenai, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni eisiau bwrw ymlaen ag ef. Rydym ni wedi archwilio pa un a yw'n bosibl, er enghraifft, ymestyn—neu ledaenu, yn hytrach—pont Britannia. Mae hynny'n anodd, ond, serch hynny, mae hwn yn waith sydd ar y gweill. Rydym yn gwybod pa mor bwysig ydyw—hynny yw, nid yw’r A55 yn ffordd ddeuol ar ei hyd cyfan, oherwydd y bont. Rydym eisoes, wrth gwrs, yn dechrau gwaith i gael gwared ar y cylchfannau yn Llanfairfechan a Phenmaenmawr, a fydd yn helpu’n aruthrol, ac, wrth gwrs, ar ben dwyreiniol yr A55, gyda’r nod o wella'r porth i Gymru yn Drome Corner. Ond, ydy, mae’r Aelod yn iawn; bydd sicrhau bod man croesi pedair lôn priodol dros y Fenai yn waith pwysig ar gyfer yr ychydig flynyddoedd nesaf.