Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 24 Mai 2016.
Yn wir, a bydd yr Aelod yn gwybod bod amseroedd aros am brofion diagnostig wedi gostwng yn aruthrol. Nid oedd yn dderbyniol eu bod cyhyd, a bu gostyngiad sylweddol o 20 y cant mewn cyfnod byr iawn o amser, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni’n bwriadu ei barhau, o ran parhau’r duedd honno yn y dyfodol. Ond mae'n bwysig hefyd, i lawer o bobl sy'n mynd i weld meddygon teulu, yn aml iawn nid oes angen iddyn nhw wneud hynny—gallent fynd i weld fferyllydd, gallent fynd i weld nyrs practis meddygfa deulu. Mae angen i ni wneud yn siŵr bod neges Dewis Doeth yn parhau i gael ei hatgyfnerthu yn y dyfodol ac nad yw pobl yn cymryd yn ganiataol, os byddwch chi’n mynd at y meddyg, bod yn rhaid i chi ddod allan gyda phresgripsiwn. Felly, oes, mae dyletswydd, wrth gwrs, ar bob un ohonom i sicrhau bod y neges honno’n yn cael ei deall.