<p>Gorddefnyddio Gwrthfiotigau</p>

2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 24 Mai 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour

7. Beth yw ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad O’Neill ar y bygythiad i iechyd dynol sy’n deillio o orddefnyddio gwrthfiotigau? OAQ(5)0007(FM)

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:15, 24 Mai 2016

(Cyfieithwyd)

Mae'n fygythiad, fel y gwyddom. Mae rhoi gormod o wrthfiotigau ar bresgripsiwn ac ymwrthedd iddynt yn broblem fyd-eang sy'n gofyn am atebion byd-eang. Serch hynny, mae gennym ni gynllun cyflawni yng Nghymru—glasbrint ar gyfer camau gweithredu penodol a fydd yn cael yr effaith fwyaf ar arafu lledaeniad ymwrthedd. Ceir 12 o gamau gweithredu penodol yn y cynllun hwnnw. Maent i gyd wedi eu cynllunio, wrth gwrs, i wneud yn siŵr ein bod yn cyfrannu at arafu ymwrthedd, o ran bacteria a firysau, i gyffuriau sydd wedi cael eu defnyddio ers blynyddoedd maith. Mae rhai o'r straeon yr wyf i wedi eu gweld yn y newyddion yn peri dychryn, o ran yr hyn a allai ddigwydd oni bai y buddsoddir mewn gwaith ymchwil nawr.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 2:16, 24 Mai 2016

(Cyfieithwyd)

Mae'n braf clywed, Brif Weinidog, eich bod yn cydnabod bod hwn wir yn fygythiad byd-eang i iechyd a chyfraddau goroesi dynol o achosion cyffredin. Rydym ni wedi tybio erioed y byddem yn goroesi’n rhwydd y clefydau cyffredin a allai achosi marwolaeth erbyn hyn. Mae'r Athro O'Neill yn galw am weithredu byd-eang ar hyn, o ran gorddefnyddio gwrthfiotigau mewn anifeiliaid yn ogystal â gorddefnyddio presgripsiynau ar eu cyfer i fodau dynol. Tybed sut y mae’r cynllun cyflawni hwn a gyhoeddwyd ychydig cyn i ni fynd i’r toriad yn mynd i ymdrin â’r amrywiadau o ran arferion, yn ein hysbytai ac yn ein meddygfeydd. Rwy’n sylwi’n benodol, yng nghlwstwr meddygon teulu dwyrain Caerdydd, bod gorbresgripsiynu sylweddol ar gyfer clefydau anadlol o’i gymharu â chlystyrau eraill, a byddai'n ddefnyddiol archwilio pam mae’r gwahaniaethau hyn yn bodoli a sut yr ydym ni’n mynd i ymdrin â nhw.

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:17, 24 Mai 2016

(Cyfieithwyd)

Mae'r Aelod yn iawn i dynnu sylw at broblem sylweddol yng nghlwstwr dwyrain Caerdydd. Gallaf ddweud bod Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan wedi cyhoeddi rhagor o wybodaeth fanwl yn ymwneud â rhoi meddyginiaethau ar bresgripsiwn ar gyfer salwch anadlol i gefnogi clystyrau o ran nodi a mynd i'r afael ag amrywiadau o ran ymddygiadau presgripsiynu. Rydym yn bell i ffwrdd o’r dyddiau pan oedd gwrthfiotigau’n cael eu rhoi ar bresgripsiwn fel mater o drefn, gan ein bod yn gwybod nad yw’n niweidio'r unigolyn ond mae'n niweidio imiwnedd torfol, os gallaf ei roi felly. Ceir rhai afiechydon—. Roedd twbercwlosis yng nghenhedlaeth fy mam-gu a’m tad-cu yn lladdwr gwirioneddol. Y gred oedd, gyda streptomycin, na fyddai TB yn broblem i ni mwyach, ac eto rydym ni’n gwybod ei bod yn ymddangos bod rhywogaethau newydd o TB erbyn hyn sy’n datblygu ymwrthedd i’r cyffuriau sydd gennym ni. Mae honno’n broses naturiol ym myd microbioleg, ac mae'n hynod bwysig ein bod yn sicrhau bod ymchwil yn dal i gael ei wneud ar draws y byd i frwydro yn erbyn yr ymwrthedd hwnnw cyn iddo fod mor wael fel ei fod yn cymryd bywydau llawer o bobl.

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 2:18, 24 Mai 2016

Brif Weinidog, efallai eich bod yn cytuno â fi wrth i fi ddweud bod y defnydd, neu’r gorddefnydd, o wrthfiotigau yn gyfrifoldeb arnom ni i gyd, i ddweud y gwir. Fel rydym yn ymwybodol, mae’r defnydd o wrthfiotig yn digwydd yn y byd amaeth, yn ogystal, wrth gwrs, a chan feddygon teulu ac yn ein hysbytai. Wrth gwrs, mewn rhai gwledydd yn Ewrop ac ymhellach, rydych jest yn gallu prynu gwrthfiotig—nid oes yn rhaid ichi gael presgripsiwn yn y lle cyntaf. Wrth gwrs, mae yna bwysau cynyddol ar feddygon, yn enwedig yn ein practisys ni, efallai, i fod yn rhagnodi pan, efallai, o gofio bod y llwnc tost arferol yn mynd i gael ei achosi gan firws, nid gwrthfiotig ydy’r driniaeth orau. Mae’n bwysig i’r cyhoedd fod yn ymwybodol o hynny yn ogystal â’r meddygon hefyd. Felly, a fyddech chi’n cytuno bod angen codi ymwybyddiaeth, ond mai ein cyfrifoldeb ni i gyd ydy’r defnydd o wrthfiotig, neu’r camddefnydd neu’r gorddefnydd o wrthfiotig?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:19, 24 Mai 2016

Nid wyf yn mynd i goethan â doctor; mae e’n iawn i ddweud, wrth gwrs, fod yna ddyletswydd arnom ni i gyd i sicrhau nad ydym yn gorofyn. Mae yna dueddiad i bobl feddwl, os oes rhywbeth yn bod arnoch chi, fod yna bilsen i bopeth. Nid felly y mae hi, wrth gwrs, ac mae hi’n bwysig bod pobl yn sylweddoli, gyda rhai pethau, nad oes yn rhaid cael antibiotig. Byddai antibiotig ddim yn gwneud gwahaniaeth iddyn nhw gyda firws ta beth. Felly, rwy’n derbyn y pwynt nad yw hwn yn ddyletswydd dim ond i ddoctoriaid, ond yn ddyletswydd ar y cyhoedd yn gyfan gwbl.

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 2:20, 24 Mai 2016

(Cyfieithwyd)

Brif Weinidog, un o'r problemau, rydym ni’n clywed, yw nad yw pobl yn cael diagnosis yn ddigon cynnar, ac felly, yn anffodus, mae heintiau yn mynd drwyddynt cyn y gellir rhoi’r gwrthfiotigau ar bresgripsiwn. O ystyried yr anawsterau y mae pobl yng Nghymru yn eu hwynebu o ran cael apwyntiadau â meddygon teulu, a'r anawsterau o ran cael ymatebion a chanlyniadau o brofion diagnostig—mae llawer o bobl yn aros wythnosau lawer weithiau, nid yn unig am i brofion diagnostig syml gael eu cynnal, ond i gael y canlyniadau yn ôl o'r profion hynny—onid ydych chi hefyd yn cytuno bod arnom angen gweithredu penderfynol i fynd i'r afael â'r problemau hynny os ydym byth yn mynd i drechu’r broblem hon o ymwrthedd i wrthfiotigau?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Yn wir, a bydd yr Aelod yn gwybod bod amseroedd aros am brofion diagnostig wedi gostwng yn aruthrol. Nid oedd yn dderbyniol eu bod cyhyd, a bu gostyngiad sylweddol o 20 y cant mewn cyfnod byr iawn o amser, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni’n bwriadu ei barhau, o ran parhau’r duedd honno yn y dyfodol. Ond mae'n bwysig hefyd, i lawer o bobl sy'n mynd i weld meddygon teulu, yn aml iawn nid oes angen iddyn nhw wneud hynny—gallent fynd i weld fferyllydd, gallent fynd i weld nyrs practis meddygfa deulu. Mae angen i ni wneud yn siŵr bod neges Dewis Doeth yn parhau i gael ei hatgyfnerthu yn y dyfodol ac nad yw pobl yn cymryd yn ganiataol, os byddwch chi’n mynd at y meddyg, bod yn rhaid i chi ddod allan gyda phresgripsiwn. Felly, oes, mae dyletswydd, wrth gwrs, ar bob un ohonom i sicrhau bod y neges honno’n yn cael ei deall.