Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 24 Mai 2016.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am ei ateb. Rwy’n siŵr ei fod yn ymwybodol bod Llywodraeth y DU yn cymryd cyfran sylweddol o warged y cynllun pensiwn glowyr yn gyfnewid am danysgrifennu’r cynllun hwnnw. Yn wir, mewn un flwyddyn yn unig, roedd y swm hwnnw yn dod i gyfanswm o dri chwarter o £1 biliwn. Mae pensiynau glowyr wedi eu troi’n ffynhonnell arian i wladwriaeth Prydain. A wnaiff y Prif Weinidog ystyried gweithio gyda chyn-lowyr a rhanddeiliaid eraill gyda’r nod o gyhoeddi cynigion ar wahân gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y dyfodol ac ar gyfer gwella cynllun pensiwn y glowyr gyda’r nod o’u dilyn ar lefel y DU yn y dyfodol?