Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 24 Mai 2016.
Wel, mae hon yn un o'r cronfeydd pensiwn hynny, er eu bod yn brin, sydd wedi bod mor llwyddiannus fel ei bod wedi darparu mwy o arian na ragwelwyd i Lywodraeth y DU. A does bosib y gall hynny fod yn iawn. Byddwn yn cael ein llywio gan yr NUM, gan ei fod wedi galw am adolygiad, a hynny'n briodol. Gwn y byddant yn cyfarfod yn fuan ag ymddiriedolwyr y cynllun hefyd i ailystyried hyn. Ond, na, yn sicr, ni all fod yn wir y dylai cronfa pensiwn y glowyr gael ei hystyried yn ffordd o gynhyrchu arian i Lywodraeth y DU. Ac mae angen gwneud llawer mwy i wneud yn siŵr bod budd i'r rhai sy'n derbyn pensiynau er mwyn sicrhau eu bod yn cael cyfran deg o elw’r gronfa bensiwn. Nid yw hynny'n wir ar hyn o bryd a byddwn yn cefnogi'r NUM yn eu galwad am adolygiad.