Part of the debate – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 24 Mai 2016.
Hoffwn ddiolch i’r Ysgrifennydd addysg am hynny a’i chroesawu i’w swydd. Mae colli cefnogaeth i astudiaethau ôl-raddedig rhan-amser yn golygu y bydd rhai o brifysgolion Cymru yn wynebu toriadau canran sylweddol i gyfanswm eu cyllid gan CCAUC. Felly, er enghraifft: bydd Prifysgol Fetropolitan Caerdydd yn colli 25 y cant o'i grant; Glyndŵr tua 20 y cant; ac mae prifysgol fel Caerdydd yn mynd i golli dros £2 filiwn. Er fy mod i’n derbyn y ffaith bod gan CCAUC yr hawl i ddyrannu'r arian fel y mae’n credu sy’n briodol, Ysgrifennydd addysg, hoffwn ddeall pa fesurau y byddwch chi’n ystyried eu rhoi ar waith, o ystyried y toriadau hyn sydd wedi eu cyhoeddi. Mae astudiaethau addysgol ôl-raddedig rhan-amser yn hanfodol ar gyfer datblygiad ein pobl, yn hanfodol ar gyfer datblygiad gyrfaol, yn hanfodol ar gyfer gwaith ymchwil ôl-raddedig ac mae, yn ei hanfod, yn rhan o'n bywyd prifysgol ac yn rhywbeth y mae'r prifysgolion eu hunain yn ei drysori’n fawr. Fy mhryder i, gyda'r toriadau hyn i’r graddau y maen nhw’n cael eu gwneud—h.y., nid oes unrhyw gyllid o gwbl, eto, mewn unrhyw le ar gyfer astudiaeth ran-amser ôl-raddedig—yw ein bod fwy neu lai’n mynd i fod yn difreinio rhan hynod bwysig o’n sail myfyrwyr aeddfed ac rwy’n meddwl bod angen i Lywodraeth Cymru gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb o ran cyfeirio CCAUC neu weld beth ellir ei wneud i liniaru'r problemau hyn, gan y bydd yn broblem wirioneddol o ran datblygu ein diwylliant yn y dyfodol.