3. Cwestiwn Brys: Astudiaeth Ôl-radd Ran-amser

– Senedd Cymru ar 24 Mai 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 2:26, 24 Mai 2016

Rwyf wedi derbyn un cwestiwn brys o dan Reol Sefydlog 12.66 ac rwy’n galw ar Angela Burns i ofyn y cwestiwn.

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative 24 Mai 2016

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad brys ynghylch y newyddion bod y cymorth a roddir ar gyfer astudiaeth ôl-radd ran-amser yng Nghymru wedi dod i ben? EAQ(5)0001(EDU)

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 2:26, 24 Mai 2016

(Cyfieithwyd)

Yn gyntaf oll, a gaf i ddiolch i'r Aelod am gyfle mor gynnar i ateb cwestiynau yma yn y Siambr hon? Mater i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yw'r penderfyniad i dorri cymorth ar gyfer astudio ôl-raddedig rhan-amser yng Nghymru. Nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw bŵer i gyfarwyddo’r cyngor cyllido ynghylch sut i ddyrannu’r arian sydd ar gael ar gyfer addysg uwch.

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative 2:27, 24 Mai 2016

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i’r Ysgrifennydd addysg am hynny a’i chroesawu i’w swydd. Mae colli cefnogaeth i astudiaethau ôl-raddedig rhan-amser yn golygu y bydd rhai o brifysgolion Cymru yn wynebu toriadau canran sylweddol i gyfanswm eu cyllid gan CCAUC. Felly, er enghraifft: bydd Prifysgol Fetropolitan Caerdydd yn colli 25 y cant o'i grant; Glyndŵr tua 20 y cant; ac mae prifysgol fel Caerdydd yn mynd i golli dros £2 filiwn. Er fy mod i’n derbyn y ffaith bod gan CCAUC yr hawl i ddyrannu'r arian fel y mae’n credu sy’n briodol, Ysgrifennydd addysg, hoffwn ddeall pa fesurau y byddwch chi’n ystyried eu rhoi ar waith, o ystyried y toriadau hyn sydd wedi eu cyhoeddi. Mae astudiaethau addysgol ôl-raddedig rhan-amser yn hanfodol ar gyfer datblygiad ein pobl, yn hanfodol ar gyfer datblygiad gyrfaol, yn hanfodol ar gyfer gwaith ymchwil ôl-raddedig ac mae, yn ei hanfod, yn rhan o'n bywyd prifysgol ac yn rhywbeth y mae'r prifysgolion eu hunain yn ei drysori’n fawr. Fy mhryder i, gyda'r toriadau hyn i’r graddau y maen nhw’n cael eu gwneud—h.y., nid oes unrhyw gyllid o gwbl, eto, mewn unrhyw le ar gyfer astudiaeth ran-amser ôl-raddedig—yw ein bod fwy neu lai’n mynd i fod yn difreinio rhan hynod bwysig o’n sail myfyrwyr aeddfed ac rwy’n meddwl bod angen i Lywodraeth Cymru gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb o ran cyfeirio CCAUC neu weld beth ellir ei wneud i liniaru'r problemau hyn, gan y bydd yn broblem wirioneddol o ran datblygu ein diwylliant yn y dyfodol.

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 2:28, 24 Mai 2016

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei chwestiwn atodol a'i dymuniadau da? Mae rhan-amser yn flaenoriaeth i'r weinyddiaeth hon ac mae’n allweddol i greu cyfleoedd i unigolion uwchsgilio a gwella eu rhagolygon am gyflogaeth. Felly, rwy’n falch iawn bod CCAUC wedi cydnabod pwysigrwydd darpariaeth ran-amser ac wedi gallu cynnal ei gefnogaeth ar lefel israddedig. Rwy’n cydnabod yr hyn y mae hi'n ei ddweud am lefel ôl-raddedig. Fel y bydd yn ymwybodol, rwyf wedi derbyn swydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn ddiweddar ac rwy'n gweithio gyda swyddogion i gael dealltwriaeth lawnach o'r cronfeydd a’r cyllid sydd ar gael i fyfyrwyr addysg uwch ac i'r sefydliadau y maent yn astudio ynddynt yng Nghymru.

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 2:29, 24 Mai 2016

(Cyfieithwyd)

Gan groesawu'r Ysgrifennydd addysg i’w swydd newydd, a gaf i ofyn iddi, yn gyntaf oll, a wnaiff hi, felly, gyhoeddi'r llythyr cylch gwaith y mae wedi ei gyflwyno, neu y mae ei rhagflaenydd wedi ei gyflwyno, i CCAUC, fel y gallwn ddeall o dan ba amgylchiadau y gwnaed y penderfyniad hwn? Mae hyn yn deillio’n uniongyrchol, wrth gwrs, o'r toriad i grant CCAUC, a gyflwynwyd gan y Llywodraeth Lafur flaenorol ac a gefnogwyd ganddi, meddai, gyda balchder. Felly, a all hi esbonio nawr sut y bydd yn rhoi ar waith yr hyn a ddisgrifiwyd gan CCAUC fel rhywbeth sy’n hanfodol a phwysig i brifysgolion Cymru, sef cymhellion tebyg i'r rhai a gynigir gan brifysgolion eraill tebyg, neu fel arall byddant yn cael eu trechu gan gystadleuaeth gref? Dyna oedd y dystiolaeth a roddodd CCAUC i’r pwyllgor yma, cyn yr etholiad. Ac a fydd hi, yn ei hadolygiad gyda'i swyddogion, yn bwriadu cyflwyno ei pholisi, y gwnaeth hi sefyll ar ei sail yn yr etholiad diwethaf, o gyflwyno bwrsariaeth chwyddo ar gyfer ôl-raddedigion? Ai dim yw'r chwyddiant?

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 2:30, 24 Mai 2016

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn y prynhawn yma hefyd? Roedd llythyr cylch gwaith CCAUC ar gyfer 2016-17, a ysgrifennwyd gan y Gweinidog blaenorol, yn gofyn i’r cyngor ddatblygu strategaeth ar gyfer AU yng Nghymru, a wnaeth, ymhlith pethau eraill, nodi ym mha ffyrdd y byddai cynghorau a darparwyr yn gweithio gyda'i gilydd i ddod o hyd i ffyrdd arloesol o annog astudiaeth ran-amser, ac i greu cyfleoedd i ymestyn y ddarpariaeth ran-amser. Bydd yr Aelod yn fwy nag ymwybodol mai dyfodol yr holl faterion hyn—o ariannu’r israddedig ac ôl-raddedig, y llawn amser a’r rhan-amser—yw testun yr adolygiad o drefniadau cyllido addysg uwch a chyllid myfyrwyr yng Nghymru, dan gadeiryddiaeth Syr Ian Diamond. Disgwylir i hwnnw gael ei gyhoeddi yn ddiweddarach yr haf hwn. Nid wyf eisiau achub y blaen ar y gwaith caled a phwysig sydd wedi ei wneud gan aelodau adolygiad Diamond, ac felly edrychaf ymlaen at ddarllen—[Torri ar draws.] —ac felly edrychaf ymlaen at ddarllen yr adroddiad, pan gaiff ei gyhoeddi, ac ystyried ei argymhellion gyda chydweithwyr yn y Cabinet.