Part of the debate – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 24 Mai 2016.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn y prynhawn yma hefyd? Roedd llythyr cylch gwaith CCAUC ar gyfer 2016-17, a ysgrifennwyd gan y Gweinidog blaenorol, yn gofyn i’r cyngor ddatblygu strategaeth ar gyfer AU yng Nghymru, a wnaeth, ymhlith pethau eraill, nodi ym mha ffyrdd y byddai cynghorau a darparwyr yn gweithio gyda'i gilydd i ddod o hyd i ffyrdd arloesol o annog astudiaeth ran-amser, ac i greu cyfleoedd i ymestyn y ddarpariaeth ran-amser. Bydd yr Aelod yn fwy nag ymwybodol mai dyfodol yr holl faterion hyn—o ariannu’r israddedig ac ôl-raddedig, y llawn amser a’r rhan-amser—yw testun yr adolygiad o drefniadau cyllido addysg uwch a chyllid myfyrwyr yng Nghymru, dan gadeiryddiaeth Syr Ian Diamond. Disgwylir i hwnnw gael ei gyhoeddi yn ddiweddarach yr haf hwn. Nid wyf eisiau achub y blaen ar y gwaith caled a phwysig sydd wedi ei wneud gan aelodau adolygiad Diamond, ac felly edrychaf ymlaen at ddarllen—[Torri ar draws.] —ac felly edrychaf ymlaen at ddarllen yr adroddiad, pan gaiff ei gyhoeddi, ac ystyried ei argymhellion gyda chydweithwyr yn y Cabinet.