4. 2. Datganiad: Penodiadau i'r Cabinet

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 24 Mai 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 2:35, 24 Mai 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Nid oes gennyf lawer iawn o gwestiynau i'r Prif Weinidog ynglŷn â hyn, a hoffwn longyfarch pawb a benodwyd ganddo.

Congratulations to you all.

Brif Weinidog, dywedasoch yn gynharach wrth ateb cwestiynau y byddai eich holl Aelodau yn rhwymedig i gydgyfrifoldebau’r Cabinet. Sut felly y byddwch yn datrys cwestiynau anodd megis pa un a fydd llwybr du yr M4 yn mynd yn ei flaen ai peidio, os oes anghytundeb rhwng aelodau o'r Cabinet ar faterion penodol?

Hoffwn gael sicrhad gan y Prif Weinidog nad yw’r Gymraeg wedi ei hisraddio yn y Cabinet hwn. Yn flaenorol, cyfrifoldeb y Prif Weinidog oedd hyn, felly byddwn yn ddiolchgar o glywed beth y gall ef ei ddweud wrth y rhai ohonom sydd yn pryderu am hyn, er ein sicrhau bod dyfodol y Gymraeg a'i thwf yn bwysig i'r Llywodraeth hon, ac na fydd yn cael ei thrin fel ôl-ystyriaeth.

Byddwn yn ddiolchgar o gael gwybod pwy yn y Llywodraeth sy'n gyfrifol am ddatrys anghydfod Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol yn yr amgueddfeydd. Ysgrifennais atoch ynglŷn â hyn ddoe, ar ôl ysgrifennu’n gyntaf at eich Llywodraeth ynghylch hyn dros flwyddyn yn ôl. Nawr, rydych wedi dweud o'r blaen eich bod yn bwriadu ymyrryd er mwyn datrys yr anghydfod hwn. Ai eich cyfrifoldeb chi yw hwn, Brif Weinidog, neu ai cyfrifoldeb Aelod arall o’ch Cabinet ydyw erbyn hyn? Yn yr un modd, byddwn yn ddiolchgar o glywed pwy yn eich Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros ddeddfwriaeth undebau llafur. A fydd y Prif Weinidog yn parhau i fod yn gyfrifol am ddur ac am refferendwm yr UE?

Ac, yn olaf, a fyddwch cystal ag egluro pwy sy'n gyfrifol am gyllid myfyrwyr? Mae gennych dri Gweinidog yn eich Cabinet sydd â swyddogaeth yn ymwneud ag addysg—un ar gyfer sgiliau, un ar gyfer dysgu gydol oes, ac un arall ar gyfer addysg. Tri portffolio ar wahân. Pa Weinidog fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol ynglŷn â chyllid myfyrwyr yma yng Nghymru os gwelwch yn dda?