4. 2. Datganiad: Penodiadau i'r Cabinet

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 24 Mai 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:37, 24 Mai 2016

(Cyfieithwyd)

Yn gyntaf oll, o ran y cwestiwn cyntaf, ydy, mae cydgyfrifoldeb yn berthnasol. Os ceir anghytundebau, byddant yn cael eu trin yn yr un modd ag yr oeddent yn cael eu trin pan oedd clymblaid â’i phlaid hi, neu yn wir, gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol yn y blynyddoedd a fu. Bydd dulliau ar waith i sicrhau bod y materion hyn yn cael eu nodi yn gynnar, er mwyn cael cytundeb. Mae’r broses hon wedi’i hen sefydlu; cafodd ei defnyddio gennym yn ystod pedair blynedd y glymblaid rhwng Llafur a Phlaid Cymru.

Nid yw’r Gymraeg yn cael ei hisraddio o gwbl. Roedd bob amser yn fater ar gyfer Gweinidog portffolio. Dyna fydd yn digwydd yn y dyfodol, ond o ystyried fy nghefndir a’m cefnogaeth ddyfal dros yr iaith, nid oes unrhyw siawns iddi gael ei hisraddio.

O ran yr anghydfod ynglŷn â’r PCS, mae Ken Skates, gan mai ef yw'r Gweinidog, wedi bod yn rhan o hyn. Rydym yn disgwyl gweld setliad, yn fuan iawn, iawn, gobeithio ac yr wyf yn diolch iddo am y gwaith y mae wedi ei wneud i sicrhau y bydd canlyniad boddhaol ar gyfer y gweithwyr. Cynhaliwyd y gwaith hwnnw yr wythnos diwethaf. Mark Drakeford, fel y Gweinidog, fydd yn gyfrifol am wthio bil yr undebau llafur yn ei flaen, ac yn gyfrifol am ddiddymu yr adrannau hynny o’r Ddeddf yr ydym yn anghytuno â nhw ac yr ydym yn credu eu bod o fewn cymhwysedd y Cynulliad hwn.

Ynglŷn â refferendwm yr UE, fy nghyfrifoldeb i fydd hynny o hyd. O ran mater Tata, bydd hwnnw'n parhau i fod yn gyfrifoldeb i mi. Ymhen amser, bydd dur yn dod yn rhan o'r portffolio economi a seilwaith, ond byddaf i'n parhau i fod yn gyfrifol am Tata.

O ran cyllid myfyrwyr, mater i Kirsty Williams yw hwnnw, fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.