Part of the debate – Senedd Cymru am 2:57 pm ar 24 Mai 2016.
Mae Awtistiaeth yn bodoli mewn dau bortffolio. O ran darpariaeth, mae hynny’n rhan o iechyd a lles. O ran darpariaeth addysg, byddai hynny’n rhan o addysg ei hun. Rwy’n cydnabod yr hyn y mae hi'n ei ddweud: un o'r materion yr ydym wedi ei archwilio yw pa un a ellid addasu’r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol i gynnwys darpariaeth ar gyfer awtistiaeth—ni welaf unrhyw reswm pam na ellir gwneud hynny—yn hytrach na bod Bil ar wahân a bod hynny’n cymryd mwy o amser. Rydym yn agored i drafodaethau ynglŷn â hynny, mae’n rhaid i mi ddweud. Felly, o ran darpariaeth, mae hi yn llygad ei lle wrth ddweud bod gorgyffwrdd yn digwydd â nifer o feysydd eraill: oedolion a phlant, addysg, ac iechyd a lles. Ond, fel bob amser, rwyf yn disgwyl i Weinidogion weithio gyda'i gilydd i allu darparu gwasanaeth cydlynol ar gyfer y rhai sydd naill ai'n gofalu am y rhai sydd ag awtistiaeth neu'r rhai sy'n byw gydag awtistiaeth, er mwyn ein symud ymlaen.
O ran y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol, os oes elfen sylweddol yn ymdrin ag awtistiaeth yn y Bil hwnnw, yna byddai hynny’n rhan o bortffolio Alun Davies, neu yn rhan o’i gyfrifoldebau. Ond gadewch i ni weld sut y bydd hynny yn datblygu o ran pa un a yw'n bosibl cynnwys darpariaeth ar gyfer awtistiaeth mewn Bil, sydd yn y bôn, yn Fil yn ymwneud ag anghenion dysgu ychwanegol. Efallai y bydd ffordd, wrth gwrs, o ymdrin â’r ddau fater a fydd wedyn, wrth gwrs, yn osgoi'r angen am Fil ar wahân a allai gymryd mwy o amser.