Part of the debate – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 24 Mai 2016.
Yn gyntaf oll, Brif Weinidog, a gaf i ddiolch i chi am eich ymateb cynharach i Andrew R. T. Davies ynglŷn â'r pwyllgorau y bydd y Llywodraeth yn eu cynnal ar y cyd â Phlaid Cymru? Mae'n rhaid i mi fynegi fy mhryderon fod rhywbeth sydd mor bwysig â’r cyfansoddiad, sy'n cynnwys, wrth gwrs, pawb yn y Cynulliad hwn, yn fater i bwyllgor sy'n cynnwys dwy blaid yn unig.
Ond, fy mhrif gwestiwn heddiw yw hwn: a allwch chi esbonio pwy sy'n mynd i fod yn bennaf gyfrifol am bolisi awtistiaeth? Mae awtistiaeth yn effeithio ar oedolion a phlant. Mae'n effeithio ar y ddau ohonynt mewn gwahanol ffyrdd ar wahanol adegau yn eu bywydau ac i raddau gwahanol. Y gwahaniaethau hynny yw un o'r rhesymau pam yr wyf yn pryderu na fydd Deddf awtistiaeth a'i huchelgeisiau yn cael eu hadlewyrchu'n ddigonol mewn Bil anghenion dysgu ychwanegol. Gan ei fod yn effeithio ar wasanaethau cymdeithasol, iechyd, yr amgylchedd, a chymunedau hyd yn oed, tybed a allwch chi egluro i bawb ohonom pwy yn union fydd yn bennaf gyfrifol am yr holl bolisi awtistiaeth, efallai yn yr un ffordd ag y mae’r prif gyfrifoldeb ar gyfer plant wedi ei roi i un Ysgrifennydd dros blant.