<p>Diwygio Llywodraeth Leol</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 8 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Neil McEvoy Neil McEvoy Plaid Cymru 1:31, 8 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Gyda’r cyfle i ddiwygio llywodraeth leol, a fydd y Prif Weinidog yn cymryd camau ar frys i sicrhau y rhoddir strwythur rhanbarthol newydd ar waith, er mwyn caniatáu i gynlluniau datblygu lleol diffygiol, gyda defnydd diangen o safleoedd maes glas, gael eu newid er mwyn osgoi blerdwf trefol wedi’i arwain gan ddatblygwyr? Oherwydd, os cofiwch, ar 24 Ebrill 2012, Brif Weinidog, fe ddywedoch mai anwiredd llwyr oedd eich bod wedi cyhoeddi cynlluniau i adeiladu ar safleoedd maes glas Caerdydd. Fe’i galwoch yn gelwydd pur, ond codwyd embaras arnoch gan eich plaid eich hun, a gyhoeddodd gynlluniau wedyn i adeiladu ar safleoedd maes glas Caerdydd. Fe wnaethoch ein camarwain ni i gyd. A wnewch chi yn awr wneud iawn am eich cam yn llygaid y cyhoedd a gweithredu polisi Plaid Cymru arall eto?