Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 8 Mehefin 2016.
Wel, mae wedi cael y ffrae hon o’r blaen. Nid wyf wedi gwneud unrhyw gyhoeddiad o’r fath erioed, fel Gweinidog, nac yn wir fel arweinydd unrhyw blaid, ac mae’n gwybod hynny’n iawn. Mae’n crybwyll pwynt pwysig. Mae’n bwynt a godwyd, yn wir, gan fy nghyd-Aelod, Hefin David hefyd, yr Aelod dros Gaerffili, sef nad yw datblygu cynlluniau datblygu lleol ar wahân i’w gilydd yn realistig. Mae synnwyr helaeth mewn cael fframwaith datblygu strategol, yn enwedig ar draws de-ddwyrain Cymru lle mae pwysau mawr. Mae Caerdydd yn ddinas sy’n tyfu’n gryf iawn a dylem groesawu hynny. Serch hynny, mae angen i ni sicrhau bod fframwaith rhanbarthol priodol ar waith er mwyn cynllunio ar gyfer twf y gwahanol rannau o Gymru yn ystod y blynyddoedd nesaf.