Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 8 Mehefin 2016.
Rwy’n cytuno’n llwyr â’r hyn y mae arweinydd yr wrthblaid wedi’i ddweud. Nid yw’n dderbyniol gwrthod hawl pobl i bleidleisio oherwydd problem dechnolegol. Rwyf yn y broses o ysgrifennu at y Prif Weinidog ynglŷn â hyn, er ei bod yn ymddangos ei fod wedi dynodi, yn gynharach y prynhawn yma, y byddai’r amser cau yn cael ei ymestyn. Mae’n bwysig yn awr, wrth gwrs, gwneud yn siŵr (a) fod hynny’n digwydd, a (b) ein bod yn deall sut y gall hynny ddigwydd.