Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 8 Mehefin 2016.
Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Fe fyddwch yn cofio sut y collodd cyn-weithwyr ASW yma yng Nghaerdydd eu pensiynau pan aeth eu cwmni i’r wal ychydig flynyddoedd yn ôl. Bodolaeth un o gyfarwyddebau’r UE yn 1980 y daeth fy nghyd-Aelod Adam Price o hyd iddi pan oedd yn AS Plaid Cymru, a orfododd y Llywodraeth—Llywodraeth Lafur oedd hi ar y pryd—i greu’r cynllun cymorth ariannol a’r gronfa diogelu pensiynau. Er nad aeth honno cyn belled ag y byddem wedi’i ddymuno—90 y cant yn unig o’r pensiwn a warantai ac nid oedd yn fynegrifol—o ystyried y marciau cwestiwn presennol dros ddyfodol pensiynau’r gweithwyr dur, heb y mesurau diogelu hanfodol hyn gan yr Undeb Ewropeaidd, a fyddech yn cytuno y byddai llawer o weithwyr yng Nghymru heddiw yn waeth eu byd nag y maent yn awr?