Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 8 Mehefin 2016.
Bydd y rhaglen cau llysoedd yn cael effaith niweidiol sylweddol ar fynediad at gyfiawnder yng Nghymru. Rŷm ni wedi anfon ymateb trwyadl at Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ac er bod y penderfyniad wedi cael ei wneud, mae hwnnw’n rhywbeth yr ydym ni wedi gwasgu’n gryf arno er mwyn er mwyn sicrhau bod yna ddigon o lysoedd yng Nghymru. Ond, yn anffodus, nid felly yw barn Llywodraeth y Deyrnas Unedig.