Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 8 Mehefin 2016.
Diolch, Brif Weinidog. Yn anffodus, un o’r llysoedd sydd wedi’i glustnodi ac sy’n mynd i gau yw’r prif lys yng Nghaerfyrddin, yng nghanol tref Caerfyrddin, sy’n adeilad hanesyddol i dref Caerfyrddin gyfan. Nawr bod y penderfyniad yna wedi’i gymryd, mae’r bobl yn y dref yn awyddus eu bod nhw’n cymryd yn ôl berchnogaeth o’r adeilad hwnnw ac yn ei droi’n rhyw fath o adnodd i’r dref—lle yn llawn hanes, wrth gwrs, ac yn llawn hanes cyfiawnder yn y dref yn ogystal. A oes modd i’r Llywodraeth fod yn lladmerydd ar ran y cyngor sir a’r cyngor tref i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder gan nad yw’r llythyrau rydw i wedi’u hysgrifennu wedi cael unrhyw ymateb o gwbl ganddyn nhw, i sicrhau bod trafodaethau yn dechrau er mwyn gweld os oes modd cadw’r adeilad yma er lles pobl Caerfyrddin?