Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 8 Mehefin 2016.
Wel, mae’r adeilad ei hunan, wrth gwrs, yn hen adeilad. I fi, mae’n adeilad pwysig; dyna’r adeilad lle y gwnes i erlyn am y tro diwethaf yn Llys y Goron, sawl blwyddyn yn ôl nawr. So, mae yna rai sydd yn y carchar—wel, dim rhagor, nid wyf yn credu, o’m hachos i. Nid wyf yn credu bod hynny’n lot fawr o help ynglŷn â chefnogaeth yn y pen draw, ond, na. A gaf i ofyn, felly, i’r Aelod i ysgrifennu ataf fi ac fe wnaf i wrth gwrs ysgrifennu at y Llywodraeth yn Llundain er mwyn sicrhau bod yna ateb ac er mwyn sicrhau bod yna fodd i bobl leol gymryd drosodd adeilad sydd yn hollbwysig i etifeddiaeth a hanes y dref?