Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 14 Mehefin 2016.
Diolch. Brif Weinidog, mae uniondeb, a ffydd pobl Cymru yn y Cynulliad hwn yn seiliedig ar y gallu i gredu yr hyn a ddywedir yn y Siambr hon. Ym mis Ebrill 2012, dywedasoch yn gyhoeddus y byddai Llafur yn gweithredu ei gynllun datblygu lleol. Roedd cynlluniau Llafur yn cynnwys caniatáu i fusnesau mawr osod concrit ar ddarnau mawr o safleoedd tir glas ac o ganlyniad i hynny cyhoeddais eich bod wedi cyhoeddi cynlluniau i osod concrit yng Nghaerdydd drwy ddweud y byddai eich plaid yn gweithredu ei Chynllun Datblygu Lleol. Dywedasoch yn y Siambr hon ar 24 Ebrill 2012 bod fy nghyhoeddiadau yn gwbl anwir ac yn gelwydd amlwg—eich geiriau chi, nid fy rhai i. Yr wythnos diwethaf—