2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 14 Mehefin 2016.
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau datblygu lleol? OAQ(5)0054(FM)[R]
Mae cynlluniau datblygu lleol wedi’u mabwysiadu cyfredol yn rhan hanfodol o system gynllunio effeithiol.
Diolch. Brif Weinidog, mae uniondeb, a ffydd pobl Cymru yn y Cynulliad hwn yn seiliedig ar y gallu i gredu yr hyn a ddywedir yn y Siambr hon. Ym mis Ebrill 2012, dywedasoch yn gyhoeddus y byddai Llafur yn gweithredu ei gynllun datblygu lleol. Roedd cynlluniau Llafur yn cynnwys caniatáu i fusnesau mawr osod concrit ar ddarnau mawr o safleoedd tir glas ac o ganlyniad i hynny cyhoeddais eich bod wedi cyhoeddi cynlluniau i osod concrit yng Nghaerdydd drwy ddweud y byddai eich plaid yn gweithredu ei Chynllun Datblygu Lleol. Dywedasoch yn y Siambr hon ar 24 Ebrill 2012 bod fy nghyhoeddiadau yn gwbl anwir ac yn gelwydd amlwg—eich geiriau chi, nid fy rhai i. Yr wythnos diwethaf—
A wnewch chi ddod â’ch hun at gwestiwn nawr os gwelwch yn dda?
Yr wythnos diwethaf, dywedasoch na wnaethoch ddweud yr hyn yr ydych eisoes wedi ei ddweud ar y cofnod.
A wnewch chi ddod â hyn at gwestiwn?
Ydych chi'n meddwl ei bod yn gwbl dderbyniol i Brif Weinidog Cymru ddod yma a gwadu yr hyn yr ydych eisoes wedi'i ddweud? A wnewch chi ddweud y gwir?
Mae’r Aelod yn byw mewn byd ffantasi. Mae wedi bod yn byw yno dros y tair blynedd diwethaf ac ni ofynnodd gwestiwn priodol hyd yn oed.
Pwynt o drefn.
Nid oes unrhyw bwynt o drefn. Hefin David.
Diolch, Lywydd. ‘Does gen i ddim syniad beth oedd hynna yn ymwneud ag ef. Nid siambr Cyngor Caerdydd yw hwn—Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw hwn. Yr hyn yr ydym yn sôn amdano yw mater y 22 o gynlluniau datblygu lleol ledled de-ddwyrain Cymru, nad ydynt yn cysylltu yn dda iawn, ac mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyflwyno Deddf Cynllunio 2015, y llynedd, i ddatrys y materion hynny. Gallai cynllun datblygu strategol de-ddwyrain Cymru gynnwys pob un o'r 10 o awdurdodau lleol, ac mae'n sicr yn wir gyda Rhanbarth Dinas Caerdydd, fod y 10 o arweinwyr yr awdurdodau lleol eisoes yn cymryd rhan ac yn gefnogol. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi bod angen rhoi ystyriaeth ddifrifol i ddull o’r fath, ac a yw hefyd yn cytuno y gellir cyflawni hyn dim ond drwy weithio gyda'n gilydd, heb gefnogi gwleidyddiaeth eich plaid eich hun yn unig a bod yn llwythol, fel y mae Neil McEvoy mor benderfynol o’i wneud?
Mae heriau gwirioneddol wrth gwrs ar gyfer ardal gyfan de-ddwyrain Cymru. Ni ellir disgwyl i Gaerdydd ar ei ben ei hun, nac unrhyw awdurdod lleol arall, ddarparu tai ar gyfer y rhanbarth cyfan. Dyna pam mae hi'n gwneud synnwyr perffaith, fel y mae fy nghyd-Aelod, yr Aelod dros Gaerffili, yn ei ddweud, y dylai'r 10 awdurdod lleol weithio gyda'i gilydd er mwyn cael cynllun strategol sy'n mynd y tu hwnt i'r cynlluniau datblygu lleol, na fyddant fyth, ar eu pennau eu hunain, yn gallu bod yn ddigon i fodloni'r galw y bydd llwyddiant economi de-ddwyrain Cymru yn ei osod ar yr ardal leol.
Mark Isherwood.
Lywydd, a wyf yn iawn i—
Mark Isherwood.
A wyf yn iawn i—
Nac ydych, dydych chi ddim. Nid ydych am gael eich clywed. Mark Isherwood.
Diolch. Wel, wrth gwrs, nid yw cynlluniau datblygu lleol yn adeiladu unrhyw dai. O gofio, yn Lloegr, bod cynlluniau lleol a lunnir mewn ymgynghoriad â'r gymuned wedi bod yn gonglfaen i ddiwygiadau cynllunio, sut y bydd eich Llywodraeth yn ymgysylltu â'r Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi ynghylch y datganiad yn ei bapur etholiad Cymru, 'Adeiladu Cymunedau, Hybu Buddsoddi', oherwydd y gwelliannau lawer yn Lloegr, o ran llai o reoleiddio a mwy o dir ar gael, bod yr atyniad cymharol o fuddsoddi yn y tir a sgiliau angenrheidiol yng Nghymru wedi lleihau dros y blynyddoedd diwethaf? Mae'r canlyniadau i'w gweld yn y data a gyhoeddwyd ddiweddaraf ar ganiatâd cynllunio, sy'n dangos bod nifer yr unedau preifat a gafodd ganiatâd cynllunio yng Nghymru er dechrau 2013 wedi gostwng gan 4 y cant, ond wedi cynyddu 49 y cant yn Lloegr.
Wel, rydym wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y tai sy'n cael eu hadeiladu yng Nghymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae'n ymddangos i mi fod y cynlluniau a geir yn Lloegr wedi'u llunio i rwystro datblygiadau tai ac nid i annog datblygiadau tai. Yr hyn sydd ei angen, wrth gwrs, yw cynllun datblygu a reoleiddir yn briodol fel bod pobl yn gallu gweld lle y bydd datblygu yn digwydd. Nid wyf yn credu bod cynlluniau datblygu lleol, ar eu pennau eu hunain, yn ddigonol mewn ardal economaidd ehangach, a dyna pam mae cynlluniau strategol, yn fy marn i, yn rymus iawn ac o lawer o gymorth wrth ystyried cynllunio ar gyfer y dyfodol.