Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 14 Mehefin 2016.
Mae heriau gwirioneddol wrth gwrs ar gyfer ardal gyfan de-ddwyrain Cymru. Ni ellir disgwyl i Gaerdydd ar ei ben ei hun, nac unrhyw awdurdod lleol arall, ddarparu tai ar gyfer y rhanbarth cyfan. Dyna pam mae hi'n gwneud synnwyr perffaith, fel y mae fy nghyd-Aelod, yr Aelod dros Gaerffili, yn ei ddweud, y dylai'r 10 awdurdod lleol weithio gyda'i gilydd er mwyn cael cynllun strategol sy'n mynd y tu hwnt i'r cynlluniau datblygu lleol, na fyddant fyth, ar eu pennau eu hunain, yn gallu bod yn ddigon i fodloni'r galw y bydd llwyddiant economi de-ddwyrain Cymru yn ei osod ar yr ardal leol.