Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 14 Mehefin 2016.
Wel, rydym wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y tai sy'n cael eu hadeiladu yng Nghymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae'n ymddangos i mi fod y cynlluniau a geir yn Lloegr wedi'u llunio i rwystro datblygiadau tai ac nid i annog datblygiadau tai. Yr hyn sydd ei angen, wrth gwrs, yw cynllun datblygu a reoleiddir yn briodol fel bod pobl yn gallu gweld lle y bydd datblygu yn digwydd. Nid wyf yn credu bod cynlluniau datblygu lleol, ar eu pennau eu hunain, yn ddigonol mewn ardal economaidd ehangach, a dyna pam mae cynlluniau strategol, yn fy marn i, yn rymus iawn ac o lawer o gymorth wrth ystyried cynllunio ar gyfer y dyfodol.